Prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Y Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Rhanbarthol

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Project lead: Wrexham Glyndwr University (WGU)

Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.

Project overview

Bydd y Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Rhanbarthol yn sbarduno cydweithio ym meysydd Ymchwil a datblygu / arloesi / datblygiad Proffesiynol Parhaus gan arwain at well canlyniadau i fusnesau bach a chanolig yn y rhanbarth.

Gan ddatblygu ar sail cynlluniau presennol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, bydd ychwaneg o gymorth ariannol yn galluogi cwmnïau yng ngogledd ddwyrain Cymru i ddatblygu prosiectau ymchwil cydweithredol ac adnabod anghenion am hyfforddiant mewn meysydd newydd. Byddai’r gefnogaeth yn cynnwys:

  • cyfranogiad helaethach yn ‘Ysgol Arloesi’ bresennol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, gan gynnwys talebau Trosglwyddo Gwybodaeth sy’n rhoi mynediad at amser academaidd, sgiliau, deunyddiau, offer a hyfforddiant
  • cyfraniad at Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth bach a chyflawn a fydd yn golygu bod modd cydweithio’n ddyfnach a chyflogi mwy o raddedigion
  • digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer cyfnewid gwybodaeth/dadansoddi hyfforddiant yn dod â busnesau a phartneriaid ynghyd, gan arwain at gyrsiau newydd

Diweddariad y prosiect

Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Mae’r Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Rhanbarthol wedi cyflawni canlyniadau cryf yn Sir Ddinbych, gan ragori ar y targedau ar draws sawl ardal.

Darparwyd 45 o Dalebau Trosglwyddo Gwybodaeth, cefnogwyd 16 o fentrau cymdeithasol gyda grantiau ac ymgysylltwyd â 143 o gyfranogwyr o’r sectorau busnes a mentrau cymdeithasol mewn hyfforddiant.

Cafwyd adborth da iawn am y gweithgareddau ymchwil a’r ymgysylltiad entrepreneuraidd, a chyflawnwyd canlyniadau ystyrlon drwy’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Bychain.

Roedd y prosiect wedi’i alinio â strategaethau allweddol Cymru gan gynnwys Cymru di-garbon net a’r Strategaeth Arloesi yng Nghymru, ac yn gosod esiampl o arfer da drwy gyd-ddylunio strategol, cefnogaeth wedi’i theilwra a llywodraethu cryf - gan wella datblygiad sgiliau a chapasiti arloesi ar draws Sir Ddinbych. 

Mawrth 2024

Lansiwyd y Rhwydwaith Sgiliau Arloesi ym mis Rhagfyr gyda digwyddiad rhwydweithio ar gampws y Coleg gyda mwy na thrigain o gwmnïau’n bresennol. Mae amryw sefydliadau yn Sir Ddinbych eisoes yn elwa ar y prosiect, gan gynnwys:

  • Clwyd Alun – wedi dechrau Partneriaeth Cyfnewid Gwybodaeth ar raddfa fach er mwyn ymchwilio i gynaladwyedd datblygiadau newydd.
  • Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen – wedi derbyn nifer o dalebau Cyfnewid Gwybodaeth a hefyd yn bwriadu sefydlu Partneriaeth Cyfnewid Gwybodaeth ar raddfa fach.