Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Nod y thema 'Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir' yw cefnogi ein busnesau lleol i dyfu a ffynnu.

Ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau

Mae cynnig i gyflawni cynllun grant o dan y thema o gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau (o dan £250,000) yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ganol fis Chwefror. Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth bydd manylion pellach ar sut i wneud cais am y cyllid hwn yn cael ei rannu yn fuan wedi hynny.

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Blwyddyn Cyfalaf Refeniw
 Blwyddyn 2  £48,000  £628,984
 Blwyddyn 3  £480,000  £816,000

Ymyriadau

  • W23: Cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol, a chefnogi busnesau ym mhob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, yn cynnwys trwy rwydweithiau lleol.
  • W24: Cyllid ar gyfer hybiau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, cynigion cymorth busnes, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ ar gyfer menter leol (yn cynnwys menter gymdeithasol) sy’n gallu cynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau newydd trwy gamau cynnar datblygu a thwf trwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, yn cynnwys rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant, hyfforddi, mentoriaeth a mynediad i leoedd gwaith.
  • W26: Cymorth ar gyfer tyfu’r economi gymdeithasol leol, yn cynnwys busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.
  • W30: Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.

Allbynnau

Allbynnau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 AllbynnauTarged (gwerth rhifiadol)
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth ariannol ar wahân i grantiau (W23, W24)  175
Nifer y mentrau sy’n cael grantiau (W23, W29, W30)  150
Nifer yr entrepreneuriaid posibl a gafodd gymorth i fod yn barod am fenter (W23, W24)  100
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W26)  100

Canlyniadau

Canlyniadau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 CanlyniadauTarged (gwerth rhifiadol)
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23, W30)  50
Swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23)  25
Nifer y mentrau newydd a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W23)  25
Nifer y mentrau sy’n mabwysiadu cynnyrch neu wasanaethau newydd neu well (W23)  10
Nifer y mentrau sy’n mabwysiadu technoleg neu brosesau newydd i’r cwmni (W23)  15

Prosiectau

Y prosiectau ar gyfer y thema hon yw:

Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro