Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Adfywio promenâd y Rhyl
    
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
    
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
 
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect hwn yw gwella ardal promenâd poblogaidd y Rhyl er mwyn cyd-fynd â gwaith adfywio parhaus y Rhyl yn ogystal â’r gwaith amddiffyniad arfordirol miliynau o bunnoedd.
Mae gwaith yn cynnwys:
- amnewid ac uwchraddio celfi stryd megis tynnu a newid:
- biniau
 
- meinciau a ffensys
 
- goleuadau
 
- rhwystrau mynediad
 
- polion baneri
 
 
- nifer o welliannau amgylcheddol megis:
- paentio
 
- arwynebu
 
- tirlunio ac ardaloedd mannau agored
 
- rhesymoli arwyddion a chelfi stryd eraill
 
 
Diweddariad y prosiect
    Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Roedd prosiect Adfywio Promenâd y Rhyl yn canolbwyntio ar welliannau i estheteg ac isadeiledd glan y môr.
Darparodd welliannau i 70,000m² o barthau cyhoeddus.  Mae’r prosiect wedi derbyn adborth cadarnhaol gan drigolion ac ymwelwyr yn ogystal ag ategu at welliannau’r Gronfa Ffyniant Bro.  
Mawrth 2024
Mae’r gwaith i ailwampio’r pedwar o byllau’n dod ymlaen yn dda a dau ohonynt bellach wedi’u cwblhau.
Mae’r tywydd gwael wedi amharu rhywfaint ar y gwaith ond y nod yw cwblhau’r ddau o byllau sy’n weddill yn yr wythnosau nesaf.