Ffyniannus: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Nod y thema 'Ffyniannus: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth' yw cefnogi canol trefi ac adferiad economaidd.

Ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 Blwyddyn Cyfalaf Refeniw
 Blwyddyn 2  £206,400  £48,000
 Blwyddyn 3  £528,000  £768,000

Ymyriadau

  • W1: Cyllid ar gyfer gwelliannau i ganol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys hygyrchedd gwell ar gyfer pobl anabl, yn cynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
  • W4: Cymorth estynedig ar gyfer sefydliadau diwylliannol, hanesyddol a threftadaeth presennol sy’n rhan o’r cynnig diwylliannol a threftadaeth lleol, gan gynnwys gwelliannau i fynediad i safleoedd i atal effeithiau ynysu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl.
  • W8: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach a phrofiadau trwy gydol y flwyddyn sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol, a’i harchwilio.
  • W14: Cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb perthnasol.
  • W16: Buddsoddi mewn marchnadoedd agored a gwelliannau i seilwaith y sector manwerthu a gwasanaethau yng nghanol trefi, gyda chymorth cofleidiol ar gyfer busnesau bach.
  • W17: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol.

Allbynnau

Allbynnau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 AllbynnauTarged (gwerth rhifiadol)
Maint y tir cyhoeddus a grëwyd neu a wellwyd (m2) (W1)  2,120
Nifer yr asedau Twristiaeth, Diwylliant neu Dreftadaeth a grëwyd neu a wellwyd (gwerth rhifiadol) (W4)  10
Nifer y digwyddiadau/rhaglenni cyfranogol (W4)  12
Nifer y bobl a gyrhaeddwyd (W8)  50,000
Nifer yr astudiaethau dichonoldeb a ddatblygwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W14)  12
Nifer o farchnadoedd lleol yn cael eu creu neu eu cefnogi (W16)  1
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth ariannol ar wahân i grantiau (W16)  5
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W17)  200
Nifer y digwyddiadau neu weithgareddau lleol a gefnogwyd (W17)  100

Canlyniadau

Canlyniadau: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth
 CanlyniadauTarged (gwerth rhifiadol)
Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr (W1, W8, W16) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr (W1, W8) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell hygyrchedd canfyddedig/profiadol (W1) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell canfyddiadau o gyfleusterau/mwynderau (W1) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Nifer y prosiectau sy’n deillio o astudiaethau dichonoldeb wedi’u hariannu (W14) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W16 )  15
Nifer y mentrau newydd a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W16)  10

Prosiectau

Y prosiectau ar gyfer y thema hon yw:

Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro