Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Canolbwynt Cymunedol Neuadd y Dref Rhuthun
Arweinydd y Prosiect: Cwmni Buddiannau Cymunedol Marchnadoedd Crefftwyr Rhuthun
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect hwn yw creu Canolbwynt Cymunedol i bobl o bob oed a gallu yn Rhuthun, gan wella cyfleusterau Neuadd y Farchnad, Neuadd y Dref a’r Hen Orsaf Dân, gan gynnwys:
- gosod mynedfeydd ar draws yr adeiladau, er mwyn eu gwneud yn hygyrch
- gwneud newidiadau i gefn yr adeiladau, gan gynnwys gwella’r mannau parcio fel eu bod yn gydlynol
- Ychwanegu:
- gardd synhwyraidd ar gyfer unigolion â dementia
- ardal chwarae i blant
- ardal eistedd i bobl gwrdd
- gardd gymunedol ar gyfer grŵp cymunedol Incredible Edible
- Symudedd siopau
- Cyfleuster lle newid yn Neuadd y Dref