Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cronfa Astudiaeth Ddichonoldeb

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu ym mlwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dysgwch fwy am flwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Trosolwg o’r prosiect

Mae gan y Tîm Datblygu Economaidd a Busnes o fewn Cyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb am yrru datblygiad economaidd ac adfywio ar draws y sir gyfan.

Cynhelir ac adolygir prosiectau posibl yn y dyfodol yn erbyn y dewisiadau cyllido ar sail barhaus.

Mae prosiectau posibl yn cael eu halinio gyda strategaethau corfforaethol CSDd ac yn dwyn ffrwyth yn ôl yr agen gyda chymorth gan Gynghorwyr, cymunedau a busnesau.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar gynnal 13 o astudiaethau dichonoldeb ar gyfer prosiectau cyfalaf.  Mae wedi rhagori ar y targed gydag 14 o astudiaethau wedi’u cwblhau, a disgwylir i 4 o’r rhain arwain at brosiectau newydd.

Mawrth 2024

Mae dwy astudiaeth dichonoldeb wedi cael eu cwblhau, gydag un arall yn parhau i ddigwydd. Mae 5 arall wedi penodi ymgynghorwyr neu wedi’u clustnodi er mwyn i’r prosiectau ddechrau yn fuan, ac mae dwy arall yn cynnal gwaith ymgysylltu o fewn y gwasanaeth i ddod o hyd i’r ymgynghorwyr a chynlluniau prosiect gorau.

Ar hyn o bryd mae’r holl brosiectau yn datblygu yn unol â’r amserlen datblygu cynlluniedig. Mae’r prosiectau sydd eisoes wedi’u cwblhau wedi rhoi gwybodaeth werthfawr a dibynadwy i Gyngor Sir Ddinbych o ran gwaith a blaenoriaethau yn y dyfodol. Disgwylir i astudiaethau addawol eraill gael eu darparu a fydd yn amlinellu prosiectau a blaenoriaethau yn y dyfodol o fewn y Cyngor, gan amlygu dichonoldeb y ddarpariaeth.