Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cronfa Marchnad y Frenhines

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect hwn yn cefnogi sefydliad y farchnad masnach newydd yn Adeilad y Frenhines yn y Rhyl.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio tuag at osodiadau mewnol y brif neuadd farchnad ac unedau busnes masnachol unigol.
Yn bennaf bydd yn cefnogi busnesau bychain sy’n ceisio sefydlu ôl-troed o fewn marchnad newydd ffyniannus.
Nod y prosiect yw creu gofod a gaiff ei ddefnyddio gan y gymuned ac ymwelwyr a gweithredu fel angor ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr i mewn i ganol y dref.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar y gwaith gosod ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.
Mae Marchnad y Frenhines wedi bod yn rhan allweddol o ganol tref y Rhyl ers 1902 ac fe’i defnyddiwyd mewn amryw wahanol ffyrdd ar hyd y blynyddoedd. Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau mawr, a bydd yn ofod cymunedol pwysig yng nghanol y Rhyl.