Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynllun Gwella Eiddo Canol y Dref

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu ym mlwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dysgwch fwy am flwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn targedu eiddo gwag, blêr neu eiddo na ddefnyddir digon arnynt yng nghanol trefi er mwyn:

  • dechrau gwelliannau i harddwch yr ardal
  • ysgogi buddsoddiad
  • cynyddu cyfleoedd gwaith
  • gwella bywiogrwydd canol trefi Sir Ddinbych

Bydd hyn yn cael ei ddarparu drwy raglen grant sy’n agored i berchnogion a deiliaid eiddo masnachol yng Nghanol Tref er mwyn ariannu gwelliannau i ymddangosiad a hyfywedd adeiladau. Bydd y gwaith yn cael ei yrru trwy recriwtio dau Swyddog Gwella Lleoedd dynodedig a fydd yn bresenoldeb rhagweithiol yn y gymuned.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddarparu grantiau i wella adeiladau yng nghanol trefi. Darparodd welliannau i dros 30 o adeiladau a llenwyd 4 o unedau gwag, gan wella estheteg yn y gobaith y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl sy’n ymweld â Threfi Sir Ddinbych.  

Mawrth 2024

Gwahoddwyd perchnogion/deiliaid eiddo masnachol i fynegi diddordeb mewn gweithredu prosiect i wella eu heiddo a chafwyd ymateb brwdfrydig i’r cynllun grantiau ymhob un o’r wyth ardal canol tref/dinas sy’n gymwys yn y sir.

Penodwyd dau o Swyddogion Gwella i gynorthwyo perchnogion/deiliaid eiddo masnachol i wella eu heiddo gyda’r nod o greu gwell lleoedd yn y trefi a’r ddinas i bobl siopa, ymweld a phreswylio.