Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen - Aros ar y Trywydd Iawn
    
Arweinydd y Prosiect: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen
    
Trosolwg o’r prosiect
Nod Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen yw datblygu ‘pecyn i gryfhau’r sefydliad’ gan eu galluogi i barhau eu proses ailstrwythuro yn dilyn nifer o flynyddoedd o newid sefydliadol.
Trwy gyflwyno adnoddau staff newydd, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar sefydlu cadernid o fewn meysydd hanfodol y sefydliad, gan gynnwys:
- gwirfoddoli
 
- hyfforddi
 
- dehongli
 
- cadwraeth
 
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys gwaith dichonoldeb ac arolwg er mwyn diogelu’r sefydliad at y dyfodol, hyrwyddo arwyddocâd hanesyddol Dyffryn Dyfrdwy a’i le yn Sir Ddinbych heddiw.
Diweddariad y prosiect
    Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Mae prosiect Aros ar y Trywydd Iawn wedi adfywio Rheilffordd Llangollen a’i rôl yn nhirwedd ddiwylliannol ac economaidd Sir Ddinbych.
Mae’r prif gyflawniadau’n cynnwys:
- creu pedair swydd newydd
 
- dros 5,000 o gyfleoedd gwirfoddoli
 
- 700+ yn bresennol mewn sesiynau hyfforddi
 
- chynnydd o 34% yn nifer y rhai’n bresennol mewn digwyddiadau arbennig
 
Bu’r prosiect yn gyfrifol am gryfhau trefniadau llywodraethu, gwella’r ffordd y rheolir gwirfoddolwyr, a chynyddu ymgysylltiad cymunedol drwy bartneriaethau â gwyliau ac ysgolion lleol. Rhoddodd hwb i dwristiaeth hefyd, gyda bron i 6,000 yn fwy o ymwelwyr yn dod i Orsaf Llangollen a chynnwys deongliadol newydd wedi ei weld dros 74,000 o weithiau. 
Mawrth 2024
Penododd y prosiect bedwar o aelodau newydd o staff cyn cyfnod prysur iawn dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 
Bu’r swyddi a ariannwyd drwy’r Gronfa yn hwb mewn sawl agwedd ar weithredu rhaglenni gan arwain at 1,100 o ymwelwyr ychwanegol (o gymharu â 2022) a phenodwyd pymtheg o wirfoddolwyr hefyd i fynd i’r afael â rhaglen weithredu mor helaeth.
Yn ogystal â hynny, mae’r swyddi Dehongli, Hyfforddi a’r Amgylchedd a ariannwyd drwy’r Gronfa wedi gwneud cynnydd mewn sawl elfen o’u rhaglenni gwaith rhagnodol, gan gynnwys, ymysg pethau eraill: 
- Bron â gorffen hyfforddi’r adrannau presennol ac adolygu eu cymhwysedd.
 
- Cynnal nifer o gyrsiau hyfforddiant, gan gynnwys Cymorth Cyntaf a Diogelwch Trac.
 
- Meithrin cyswllt â phartneriaid yn yr AHNE gydag amryw brosiectau’n ymwneud â dehongli, yr amgylchedd a chadwraeth.
 
- Ffurfiwyd cytundeb partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam a fydd nid yn unig yn ategu rhaglen waith prosiect y Gronfa Ffyniant Gyffredin ond hefyd yn creu cyfleoedd i’r Brifysgol a’r myfyrwyr wedi iddynt raddio.