Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cronfa Allweddol Gallu Cymuned

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd Prosiect: Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu ym mlwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dysgwch fwy am flwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect yw trawsnewid pŵer a gallu pobl yn y Trydydd Sector ac o fewn cymunedau ledled Sir Ddinbych i greu a darparu gwasanaethau hanfodol mewn byd heriol sy’n newid. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar:

  • Meithrin gallu arweinyddiaeth gynaliadwy mewn sefydliadau Trydydd Sector i allu:
    • gwneud y mwyaf o ymateb y sector i heriau ac anghenion cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg
    • tyfu gwasanaethau i lenwi’r bylchau
    • buddsoddi mewn gwytnwch sefydliadol
  • Creu a darparu model ar gyfer gweithio mewn cymunedau i feithrin hyder a sgiliau pobl i gyd-gynhyrchu datrysiadau i broblemau lleol
  • Darparu rhaglen grantiau arwyddocaol wedi’i thargedu at gefnogi arloesedd, gwytnwch a chynaliadwyedd sefydliadau’r Trydydd Sector sydd eisoes yn bodoli ac er mwyn datblygu rhai newydd.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Mae rhaglen Cronfa Allweddol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi dyrannu £1.25 miliwn dros dair rownd, gan gefnogi 72 o sefydliadau â chymysgedd o grantiau refeniw a chyfalaf.

Roedd cyllid ychwanegol yn cynnwys £370,000 ar gyfer y cynllun rhifedd Lluosi.

Darparodd y Rhaglen Addysg a Chefnogaeth ddosbarthiadau meistr, gwasanaethau ymgynghori a hyfforddiant wedi’u teilwra i helpu i sefydlu wyth o Gwmnïau Buddiannau Cymunedol.

Mae’r cyllid wedi helpu i gryfhau gwytnwch sefydliadol, yn arbennig ymhlith grwpiau a arweinir gan wirfoddolwyr, yn ogystal â gwella isadeiledd, gallu a chynaliadwyedd ariannol.

Ymgysylltwyd â 796 o ddysgwyr drwy’r rhaglen Lluosi, gan ragori ar darged gwreiddiol y prosiect a rhoi hwb i hyder mathemategol dysgwyr drwy ddarpariaeth greadigol a chynhwysol.  

Mawrth 2024

Dyma rai o’r pethau pwysicaf y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi’u cyflawni ers cael cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • Mae’r holl grantiau Cyfalaf a Refeniw yng Nghylch 1 wedi’u talu - cynhaliwyd pob cyfarfod monitro ac mae tystiolaeth o ganlyniadau a deilliannau’n cael ei chasglu ar hyn o bryd. Mae’r prosiectau’n ennyn cryn ganmoliaeth.
  • Cynhaliwyd pedwar o Ddosbarthiadau Meistr 321 - cafwyd ymateb ardderchog i’r pedwerydd un (Rheoli Newid).
  • Sefydlwyd deuddeg o berthnasau hyfforddi â Phrif Swyddogion mewn sefydliadau trydydd sector.
  • Cychwynnodd yr ail gylch o’r Gronfa Allweddol ar 01/03/2024 a daeth i ben ar 31/3/24.