Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Nod y thema 'Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol' yw cefnogi gwaith da a gwytnwch ein cymunedau a’r grwpiau sy’n gweithredu ynddynt.

Ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau

Mae cynnig i gyflawni cynllun grant o dan y thema o gefnogi prosiectau llai gan gymunedau a busnesau (o dan £250,000) yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ganol fis Chwefror. Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth bydd manylion pellach ar sut i wneud cais am y cyllid hwn yn cael ei rannu yn fuan wedi hynny.

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Meithrin Gallu Cymunedol
 Blwyddyn Cyfalaf Refeniw
 Blwyddyn 2  £259,200  £48,000
 Blwyddyn 3  £432,000  £1,079,524

Ymyriadau

  • W9: Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n creu effaith a/neu brosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn lleoedd lleol.
  • W11: Buddsoddi mewn meithrin gallu a chymorth seilwaith ar gyfer cymdeithas sifil leol a grwpiau cymunedol.
  • W12: Buddsoddiad mewn cynlluniau ymgysylltu cymunedol i gefnogi ymglymiad cymunedol wrth wneud penderfyniadau mewn adfywio lleol

Allbynnau

Allbynnau: Meithrin Gallu Cymunedol
 AllbynnauTarged (gwerth rhifiadol)
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn cymorth anariannol (W9, W11, W12)  316
Nifer y digwyddiadau neu weithgareddau lleol a gefnogwyd (W9, W12)  838
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a gefnogir (W9, W12)  690
Nifer y prosiectau a gwblhawyd yn llwyddiannus (W9)  75
Nifer yr amwynderau/cyfleusterau a grëwyd neu a gafodd eu gwella (W11 )  10
Nifer y bobl sy'n mynychu sesiynau hyfforddi  125
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn cymorth ariannol heblaw grantiau (W12)  30
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn grantiau (W12)  57
Nifer y bobl a gyrhaeddwyd  600

Canlyniadau

Canlyniadau: Meithrin Gallu Cymunedol
 CanlyniadauTarged (gwerth rhifiadol)
Gwell niferoedd ymgysylltu (W9, W11, W12) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W9) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Nifer y cyfleusterau cymunedol newydd neu well o ganlyniad i gefnogaeth (W11)  35

Prosiectau

Y prosiect ar gyfer y thema hon yw Cronfa Allweddol Gallu Cymuned.

Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro