Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynllun Braenaru’r Rhwydwaith TALENT Twristiaeth

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect:  Coleg Llandrillo (Grwp Llandrillo Menai)

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol.

Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y Cynllun Braenaru hwn yn gosod y seiliau ar gyfer sefydlu’r Rhwydwaith TALENT Twristiaeth (Bargen Dwf Gogledd Cymru) er mwyn mynd i’r afael â phroblemau recriwtio, herio canfyddiadau negyddol a hyrwyddo cyfleoedd am yrfaoedd yn y sector twristiaeth.

Diben y Cynllun Braenaru fydd estyn allan ac ymgysylltu cyn dechrau mynd ati i newid y meddylfryd a’r naratif ynghylch y cyfleoedd am yrfaoedd mewn twristiaeth a lletygarwch a gwerth y gyrfaoedd hynny.

Bydd yn sicrhau fod rhestr o fyfyrwyr wedi’i sefydlu erbyn lansio’r Rhwydwaith. Bydd y Cynllun Braenaru’n datblygu sgiliau a hyfforddiant i’r partneriaid ac yn cyflymu datblygiad y Ganolfan Ragoriaeth yng Ngholeg Llandrillo.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Cafodd Cynllun Talent Twristiaeth effaith sylweddol yn Sir Ddinbych – fe aeth ymhell y tu hwnt i’r targedau cychwynnol, gan gael 459 o unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau sgiliau bywyd, sgiliau sylfaenol ac addysgol.

Bu’r prosiect hwn, a ddarparwyd gan Grŵp Llandrillo Menai, yn cyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd ym maes twristiaeth a lletygarwch drwy weithdai, ymweliadau safle, a digwyddiadau fel Bwrdd Cogydd Bryn Williams.

Enillodd y myfyrwyr brofiad ymarferol a datblygwyd eu hyder, sgiliau cyfathrebu a sgiliau bywyd, a mynegodd lawer ohonynt ddiddordeb newydd ym maes arlwyo a phrentisiaethau.

Bu’r fenter hefyd yn cefnogi busnesau lleol ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd. 

Mawrth 2024

Dechreuodd y Cynllun Braenaru Talent Twristiaeth gynnal ei weithgareddau ar Chwefror 27 a 28 yn Ysgol Uwchradd y Rhyl. Dros y ddau ddiwrnod, daeth cannoedd o fyfyrwyr ysgolion uwchradd o bob cwr o’r wlad i Ysgol Uwchradd y Rhyl i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau’n canolbwyntio ar Letygarwch a Thwristiaeth. Roedd y digwyddiadau hynny’n cynnwys Gornest Fwyd lle bu disgyblion blwyddyn 7 yn torchi’u llewys wrth ddysgu o ble mae bwyd yn dod, meithrin sgiliau byw sylfaenol, dysgu dulliau coginio a dod i ddeall maeth, a bu disgyblion Blwyddyn 10 yn gweithio â chogyddion proffesiynol lleol i gael blas ar weithio yn y diwydiant. Y nod oedd rhoi syniad o’r hyn y mae cyflogwyr yn ei ddisgwyl a hyrwyddo’r cyfleoedd am yrfaoedd cyffrous yn y sector Lletygarwch a Thwristiaeth yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru.