Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Nod y thema 'Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau' yw cefnogi darpariaeth dysgu a hyfforddi o ansawdd sy’n galluogi pobl o bob oed i gyflawni eu llawn botensial, yn bersonol ac yn broffesiynol.

Ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Pobl a Sgiliau
 Blwyddyn Cyfalaf Refeniw
 Blwyddyn 2  £0  £2,664,000
 Blwyddyn 3  £0  £2,833,920

Ymyriadau

  • W34: Cymorth cyflogaeth i bobl economaidd anweithgar: Cymorth un-i-un dwys a chofleidiol er mwyn symud pobl yn agosach at ddarpariaeth brif ffrwd ac at gael gafael ar gyflogaeth a'i chadw, gan gynnwys cymorth cofleidiol i bobl sy'n ymgymryd â phrentisiaethau, wedi'i ategu gan gymorth sgiliau bywyd a sgiliau sylfaenol ychwanegol a/neu arbenigol (digidol, Saesneg, mathemateg* ac ESOL) lle y ceir bylchau yn y ddarpariaeth leol. Gall y ddarpariaeth hon gynnwys prosiectau sy'n hyrwyddo pwysigrwydd gwaith er mwyn helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol a meithrin cadernid ariannol a llesiant yn y dyfodol. Mae'r carfanau disgwyliedig yn cynnwys pobl ag anghenion cymhleth lluosog (pobl ddigartref, pobl sy'n gadael gofal, cyndroseddwyr, pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau a dioddefwyr trais domestig), pobl ag anabledd a chyflwr iechyd, pobl dros 50 oed, menywod, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a phobl o leiafrif ethnig, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r bobl hynny yn unig.
    *drwy'r rhaglen Lluosi
  • W35: Mae'r cyrsiau'n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (drwy raglen Lluosi) ac ESOL), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl nad ydynt yn economaidd anweithgar ac na allant gael mynediad at hyfforddiant arall na'r cymorth cofleidiol a nodir uchod. Fe'u hategir gan gymorth ariannol sy'n galluogi dysgwyr i gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau. Y tu hwnt i hynny, bydd yr ymyriad hwn hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cydlyniant cymunedol a hwyluso gwell balchder dinesig cyffredin, gan arwain at well integreiddio i'r rheini sy'n cael cymorth ESOL.
    **lle nad ydynt yn cael eu cynnig drwy ddarpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Lywodraeth Cymru.
  • W36: Gweithgareddau megis gweithgareddau cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo llesiant.
  • W38: Cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl mewn cyflogaeth nad ydynt yn cael eu cefnogi gan ddarpariaeth brif ffrwd i fynd i'r afael â rhwystrau i addysg a chyrsiau hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys helpu grwpiau sy'n debygol o adael y farchnad lafur yn gynnar i aros ynddi.
  • W39: Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i gyllido anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy'n berthnasol i anghenion ardal leol a chymwysterau gwerth uchel lle mae angen capasiti sgiliau ychwanegol na ellir ei ddarparu drwy gyllid prif ffrwd.
  • W43: Cyllid i gefnogi trefniadau ymgysylltu ac i ddatblygu sgiliau meddalach pobl ifanc, gan ystyried gwaith Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio.

Allbynnau

Allbynnau: Pobl a Sgiliau
 AllbynnauTarged (gwerth rhifiadol)
Nifer y bobl economaidd anweithgar sy'n ymgysylltu â gwasanaethau cymorth gweithwyr allweddol (W34)  575
Nifer y bobl economaidd anweithgar a gefnogir i ymgysylltu â’r system fudd-daliadau (W34)  100
Nifer y bobl sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol sy'n cyrchu cymorth (W34)  600
Nifer y bobl a gafodd gefnogaeth i gael mynediad at gyrsiau sgiliau sylfaenol (W34, W43)  1,130
Nifer y bobl sy'n cyrchu cymorth iechyd meddwl a chorfforol sy'n arwain at gyflogaeth (W34)  260
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i chwilio am waith (W34)  400
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i gael gwaith (W34)  295
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i gynnal cyflogaeth (W34)  100
Nifer yr ymgysylltiadau effeithiol rhwng gweithwyr allweddol a gwasanaethau ychwanegol (W34)  315
Nifer y bobl a gefnogir i ennill cymhwyster (W34, W35, W38, W39, W43)  970
Nifer y bobl a gefnogir i ymgysylltu â sgiliau bywyd (W35, W43)  1,890
Nifer y bobl a gafodd gefnogaeth i gofrestru ar gwrs trwy ddarparu cymorth ariannol (W35)  275
Nifer y bobl a gefnogir i gymryd rhan mewn addysg (W36)  890
Nifer y cyfleoedd gwirfoddoli a gefnogwyd (W36)  240
Nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni profiad gwaith (gwerth rhifiadol)(W36)  345
Nifer y bobl sy'n ailhyfforddi (W36)  80
Nifer y bobl mewn cyflogaeth sy'n ymgysylltu â'r system sgiliau (W38)  80
Nifer y bobl sy'n cael cymorth i ennill trwydded alwedigaethol (W38, W39)  130

Canlyniadau

Canlyniadau: Pobl a Sgiliau
 CanlyniadauTarged (gwerth rhifiadol)
Nifer yr unigolion economaidd anweithgar sy’n ymgysylltu â’r system fudd-daliadau ar ôl cael cefnogaeth (W34)  75
Nifer y cyfranogwyr gweithredol neu barhaus mewn grwpiau cymunedol o ganlyniad i gefnogaeth (W34)  490
Nifer y bobl sy'n adrodd am fwy o gyflogadwyedd trwy ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a ariennir gan UKSPF (W34)  475
Nifer y bobl â sgiliau sylfaenol ar ôl cael cefnogaeth (W34)  140
Nifer y bobl mewn cyflogaeth â chymorth (W34)  20
Nifer y bobl sy'n parhau i ymgysylltu â chymorth gweithwyr allweddol a gwasanaethau ychwanegol (W34)  320
Nifer y bobl sy'n chwilio am swydd yn dilyn cymorth (gwerth rhifiadol)(W34)  360
Nifer y bobl mewn cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, yn dilyn cymorth (W34, W35, W36)  450
Nifer y bobl sy'n cynnal cyflogaeth am 6 mis (W34)  90
Nifer y bobl mewn addysg/hyfforddiant ar ôl cael cefnogaeth (W35, W36, W39)  930
Nifer y bobl sy’n profi llai o rwystrau strwythurol i gyflogaeth ac i ddarpariaeth sgiliau (W35, W36)  1,230
Nifer y bobl sy’n gyfarwydd â disgwyliadau cyflogwyr, gan gynnwys safonau ymddygiad yn y gweithle (W36)  595
Nifer y bobl sy'n ennill cymwysterau, trwyddedau a sgiliau (W38)  60
Nifer yr unigolion economaidd weithgar sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant sgiliau prif ffrwd (W39)  100
Cynnydd yn nifer y bobl yn ennill cymwysterau, trwyddedau a sgiliau (W43) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn cymorth sgiliau bywyd yn dilyn ymyriadau (W43) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd

Prosiectau

Y prosiectau ar gyfer y thema hon yw:

Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro