Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Partneriaeth Sgiliau Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru

Arweinydd y Prosiect: The Little Learning Company
Trosolwg o’r prosiect
Prosiect treftadaeth a sgiliau a fydd yn cefnogi a diogelu hen grefftau, dulliau adeiladu a pheirianneg drwy greu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a rhannu gwybodaeth rhwng amryw safleoedd yn Sir Ddinbych, gan sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad wrth hybu sgiliau treftadaeth. Bydd y prosiect yn:
- Cynyddu’r gallu i ddarparu hyfforddiant yn y sector.
- Creu a hwyluso cyfleoedd i rannu gwybodaeth a chefnogi’r rhwydwaith sgiliau treftadaeth presennol.
- Datblygu a darparu cyfleoedd newydd i bobl 16 oed a hŷn ymuno â’r sector.
- Creu nifer o gyfleoedd i bobl symud ymlaen i Addysg Bellach, Addysg Uwch neu gael gwaith.
- Helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau treftadaeth.
- Cysoni’r ddarpariaeth sgiliau treftadaeth â phrif ffrydiau cyllido.
- Darparu cyfleoedd newydd i bobl wella eu sgiliau rhifedd.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Mae’r prosiect Sgiliau Treftadaeth, dan arweiniad The Little Learning Company, wedi rhagori ar ei dargedau yn Sir Ddinbych yn sylweddol drwy ymgysylltu â 841 o gyfranogwyr a chefnogi cannoedd gyda sgiliau bywyd ac addysg.
Gan ganolbwyntio ar adeiladu treftadaeth a chrefftau traddodiadol, mae’r prosiect wedi darparu hyfforddiant ymarferol ar sgiliau megis crefft y gof, codi waliau cerrig, a fframiau pren.
Mae hyn wedi arwain at wella cyflogadwyedd, cymwysterau ac ymgysylltiad cymunedol, gyda nifer o ddysgwyr yn nodi gwelliannau i’w lles a llai o unigedd.
Sefydlwyd Gweithdy Sgiliau Traddodiadol newydd yn Ninbych, a phartneriaethau gydag ysgolion, elusennau, a chryfhau’r ddarpariaeth leol o safleoedd treftadaeth.
Er gwaethaf yr heriau o ran darparu rhai cyrsiau adeiladu, mae’r prosiect wedi gosod y sylfeini ar gyfer rhwydwaith hyfforddiant treftadaeth hirdymor yng ngogledd Cymru.
Mawrth 2024
Mae’r Little Learning Company wedi gwneud llawer o gynnydd yn y misoedd diwethaf.
Dechreuodd y prosiect rentu Ystafell Ddiogel gan yr Armoury Conservation Trust ar 1 Chwefror a byddant yn dal i wneud hynny tan 31 Hydref 2024. Maent wedi gallu defnyddio’r ystafell ar gyfer cynnal cyrsiau a chyfarfodydd a chadw offer.
Cynhaliwyd nifer helaeth o gyrsiau, gan gynnwys crefftau, codi waliau cerrig, ffeltio gwlyb, gwehyddu ar wŷdd pegiau a chwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr lefel 2, gyda llu o gyrsiau eraill ar y gweill.