Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: WorkingSense

Arweinydd Prosiect: Y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol.
Project overview
Bydd WorkingSense yn helpu i wella rhagolygon gwaith pobl anweithgar sydd ag anabledd neu nam ar y synhwyrau (pobl fyddar neu sydd â nam ar y clyw a phobl ddall neu sydd â nam ar y golwg) sy’n 25 oed neu’n hŷn. Bydd gan WorkingSense staff arbenigol sy’n gallu cynnig cefnogaeth un-i-un i helpu unigolion gael gwaith neu fynd yn ôl i weithio ac aros mewn cyflogaeth.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Mae’r prosiect Working Sense wedi cael effaith gref yn Sir Ddinbych, gan ragori ar y mwyafrif o’i dargedau allbwn a chanlyniadau ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Yn Sir Ddinbych, mae cyfranogwyr wedi nodi cynnydd yn eu hyder, sgiliau digidol a’u cymwysterau galwedigaethol, gyda nifer yn mynd ymlaen i wirfoddoli neu weithio mewn sectorau megis manwerthu, gofal a digidol.
Gwerthfawrogwyd y gefnogaeth 1:1 wedi’i theilwra a oedd yn rhan o’r prosiect yn fawr, sydd wedi helpu unigolion i oresgyn gorbryder, iselder ac arwahanrwydd cymdeithasol.
Mae cyrsiau Cymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain wedi gwella mynediad, ac aethpwyd i’r afael â rhwystrau cludiant mewn ardaloedd gwledig drwy gefnogaeth leol.
Mae straeon personol wedi amlygu siwrneiau trawsnewidiol, gan gynnwys unigolion nad ydynt wedi bod mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant ers peth amser yn dychwelyd i addysg a gwaith.
Ar y cyfan, mae’r prosiect wedi gwella cyflogadwyedd, lles a chynhwysiant i raddau helaeth ar gyfer oedolion dros 25 oed sy’n anabl neu â phroblemau iechyd yn Sir Ddinbych.
Mawrth 2024
Mae Working Sense yn dod ymlaen yn dda. Bu’r tîm yn canolbwyntio’n fanwl ar feithrin cyswllt â darpar ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn misoedd diweddar, gan fynd i amryw ddigwyddiadau rhwydweithio mewn Canolfannau Gwaith ac yn y gymuned leol. Cafwyd cryn lwyddiant â hynny, gan gynnwys derbyn nifer o atgyfeiriadau newydd, meithrin y berthynas â’r rhwydwaith presennol a chreu cysylltiadau newydd yn yr awdurdod lleol.
Mae’r tîm yn ymweld â’r Ganolfan Waith bob pythefnos ac wedi bod yn cydweithio’n agos â Maximus hefyd i gynorthwyo cwsmeriaid â’r rhaglenni Ailgychwyn a Gweithio Iach.
Trefnodd y tîm Ddiwrnod Rhannu Gwybodaeth a gynhaliwyd ar 27 Chwefror. Gwahoddwyd sefydliadau o’r tair sir gyda’r nod o hyrwyddo’r prosiect iddynt a thrafod cyfleoedd i gydweithio.
Maent hefyd yn meithrin cyswllt â chyflogwyr a Swyddogion Cyswllt Gwaith yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r awdurdodau lleol gyda’r nod o leihau’r rhwystrau sy’n atal buddiolwyr rhag cael gwaith yn ogystal ag addysgu cyflogwyr ynglŷn â phethau fel mynediad at waith.