Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Darpariaeth Ardaloedd Chwarae Hygyrch

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn darparu ardaloedd chwarae mewn lleoliadau strategol ar draws y sir sy’n hygyrch i bawb drwy osod cyfarpar arbenigol a gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a dodrefn stryd yn y parth cyhoeddus a’r ardal gyfagos.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb olaf y prosiect (Blwyddyn Drosiannol 2025–26)

Mae ailddatblygiad Ardal Chwarae Traeth Canol ym Mhrestatyn wedi ei gwblhau yn llwyddiannus, gan ddarparu lle modern, cynhwysol a deniadol i’r gymuned leol.

Wedi ei ariannu trwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU a’i reoli gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych, mae’r prosiect wedi trawsnewid y safle gyda dyluniad glan môr newydd sy’n adlewyrchu ei leoliad arfordirol.

Mae’r ardal chwarae a uwchraddiwyd yn cynnwys offer hygyrch a synhwyraidd, gan alluogi plant o bob gallu i gyd-chwarae, wrth hyrwyddo datblygiad corfforol a gwybyddol trwy gyfleoedd chwarae amrywiol a deinamig.

Darparwyd trwy KOMPAN - sydd hefyd wedi ailddatblygu ardaloedd chwarae yn llwyddiannus ym Mharc Drift a Marchnad y Frenhines - mae’r prosiect yn adeiladu ar raglen ehangach o welliannau ansawdd uchel ar draws y sir.

Bu i’r agoriad swyddogol, a gefnogwyd gan ddisgyblion o Ysgol Bodnant, nodi carreg filltir gymunedol gadarnhaol gydag ymgysylltiad lleol cryf. 

Ar y cyfan, mae’r prosiect wedi cyrraedd ei amcanion, sef:

  • gwella darpariaeth chwarae
  • gwella hygyrchedd
  • cefnogi iechyd a lles trigolion ac ymwelwyr
  • creu ased cymunedol gwerthfawr a hirdymor

Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Roedd y prosiect Darpariaeth Ardaloedd Chwarae Hygyrch yn canolbwyntio ar feysydd chwarae cynhwysol yn Rhuthun a Phrestatyn.

Darparwyd gwelliannau i dros 2000 m² o barthau cyhoeddus yn ogystal ag uwchraddio 2 gyfleuster chwarae, sydd wedi arwain at adborth cadarnhaol gan y gymuned, rhagor o ddefnydd gan deuluoedd, a hygyrchedd gwell er mwyn sicrhau ardaloedd chwarae cynhwysol i blant.

Mawrth 2024

Mae’r tîm wedi cael trafodaethau cychwynnol a chyfarfod safle gyda STAND er mwyn trafod a datblygu syniadau am y ffordd y gall ardal chwarae hygyrch gael ei ddarparu. Ar hyn o bryd mae dewisiadau yn cael eu harchwilio ac mae costau cychwynnol yn cael eu nodi gyda chyflenwyr ar gyfer darnau amrywiol o offer.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn Ebrill 2024.