Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Strategaeth Rheoli Cyrchfan a Thwristiaid; Adnoddau Ychwanegol at yr Haf

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn darparu mwy o adnoddau glanhau amgylcheddol a chynnal a chadw tir i ymdopi â’r niferoedd ychwanegol o ymwelwyr a chwsmeriaid yn y sir yn ystod haf 2023/24.

Diweddariad y prosiect

Crynodeb olaf y prosiect (Blwyddyn Drosiannol 2025–26)

Bu staff ychwanegol yn cefnogi gwaith o flaenoriaeth ar draws nifer o ardaloedd a nodwyd. Cafodd y timau hyn eu hanfon i ble roedd eu hangen fwyaf, gan helpu i dargedu materion penodol a chyflawni gwelliannau gweledol. 

I helpu i ddangos y gwahaniaeth mae’r gwaith hwn wedi ei wneud, cymerwyd lluniau cyn ac ar ôl y gwaith ym mhob lleoliad. Roedd hyn yn gallu dangos y cynnydd yn glir a sicrhau y gellir adolygu’r gwelliannau yn briodol.  

Cafwyd gwiriadau rheolaidd hefyd i asesu pa mor effeithiol oedd y gwaith ac i gadarnhau ei fod yn bodloni anghenion lleol.

Crynodeb y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar lanhau strydoedd yn rheolaidd mewn ardaloedd prysur. Mae wedi arwain at welliannau i 50,000m² o barthau cyhoeddus yn ogystal â chreu 11 o swyddi, gan helpu i gynnal glendid ac atyniad ardaloedd twristaidd. 

Mawrth 2024

Cafwyd llwyddiant wrth recriwtio staff ar gyfer tymor 2023/24 a bydd y prosiect yn recriwtio staff ar gyfer tymor 2024/25 cyn bo hir.

Cyflogwyd gweithwyr asiantaeth dros wyliau’r Pasg a bydd y nifer yn cynyddu’n raddol rhwng rŵan a’r haf, fel y digwyddodd y llynedd.