Lluosi

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Amcan cyffredinol Multiply yw codi lefelau rhifedd ymarferol ymysg oedolion ledled y DU.

Mesurau llwyddiant

Rydym wedi amlygu’r mesurau llwyddiant canlynol ar gyfer y rhaglen gyfan ar lefel genedlaethol:

  • Mwy o oedolion yn cyflawni cymwysterau mathemateg / yn cymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd (hyd at ac yn cynnwys Lefel 2)
  • Gwell canlyniadau i’r farchnad lafur e.e. llai o fylchau o ran sgiliau rhifedd yn cael eu hadrodd gan gyflogwyr, a chynnydd yng nghyfran yr oedolion sy’n symud ymlaen i gyflogaeth barhaus a / neu addysg
  • Cynnydd mewn rhifedd oedolion ar draws y boblogaeth – bydd yr effaith gyffredinol hon, sy’n mynd y tu hwnt i gyflawni tystysgrifau neu gymwysterau, yn olrhain y gwahaniaeth canfyddedig a gwirioneddol y mae cymryd rhan yn y rhaglen yn ei wneud wrth helpu dysgwyr i wella eu dealltwriaeth a’u defnydd o fathemateg yn eu bywydau pob dydd, gartref ac yn y gwaith – ac i deimlo’n fwy hyderus wrth wneud hynny

Ymyriadau

  • W44: Cyrsiau wedi'u cynllunio i wella hyder â rhifau i'r rheini sydd angen cymryd y camau cyntaf tuag at gymwysterau ffurfiol
  • W45: Cyrsiau i rieni sydd am wella eu sgiliau rhifedd er mwyn helpu eu plant, ac er mwyn helpu i wneud cynnydd eu hunain
  • W46: Cyrsiau wedi'u hanelu at garcharorion, unigolion sydd wedi cael eu rhyddhau o'r carchar yn ddiweddar neu sydd wedi'u rhyddhau ar drwydded dros dro
  • W47: Cyrsiau wedi'u hanelu at bobl na allant wneud cais am rai swyddi penodol oherwydd diffyg sgiliau rhifedd a/neu er mwyn annog pobl i uwchsgilio er mwyn gallu ymgymryd â swydd/gyrfa benodol
  • W48: Modiwlau mathemateg perthnasol ychwanegol wedi'u cynnwys fel rhan o gyrsiau galwedigaethol eraill
  • W49: Rhaglenni arloesol a gyflwynir ar y cyd â chyflogwyr – gan gynnwys cyrsiau wedi'u cynllunio i ymdrin â sgiliau rhifedd penodol sydd eu hangen yn y gweithle
  • W50: Cyrsiau dwys a hyblyg newydd wedi'u targedu at bobl heb gymhwyster mathemateg Lefel 2 yng Nghymru, sy'n arwain at gymhwyster cyfatebol
  • W51: Cyrsiau wedi'u cynllunio er mwyn helpu pobl i ddefnyddio rhifedd i reoli eu harian
  • W52: Cyrsiau wedi'u hanelu at unigolion 19 oed neu drosodd sy'n gadael y system gofal neu sydd newydd adael y system
  • W53:  Gweithgareddau, cyrsiau neu ddarpariaeth a ddatblygir mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol a phartneriaid eraill wedi'u hanelu at ymgysylltu â'r dysgwyr mwyaf anodd eu cyrraedd – er enghraifft, y rhai nad ydynt yn rhan o'r farchnad lafur neu grwpiau eraill y nodwyd yn lleol eu bod mewn angen

Prosiectau

Y prosiect ar gyfer y thema hon yw Rhifedd am Oes.

Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro