Diogelu data

Mae Rheoliadau Diogelu Data yn rhoi hawl i chi ffeindio pa wybodaeth rydyn ni’n ei dal amdanoch chi. Mae’n llywodraethu’r ffordd y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Gall hyn gynnwys eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, a gwybodaeth am y gwasanaethau y byddwch yn eu derbyn gan y Cyngor. Mae’r Rheoliadau yn rhoi’r hawl i chi ofalu bod y wybodaeth rydyn ni’n ei dal amdanoch chi’n gywir, ac iddi gael ei diwygio os bydd angen.

Sut mae gofyn am wybodaeth?

Gallwch ofyn am wybodaeth sydd amdanoch chi’n unig. Ni allwch ofyn am wybodaeth am rywun arall, hyd yn oed os ydyn nhw’n berthynas, oni bai fod gennym eu caniatâd.

Ffurflen gais gofyn am wybodaeth (MS Word, 110KB) 

Ceisiwch gynnwys cymaint o fanylion ag a allwch chi (e.e. dyddiadau, rhifau cyfeirnod sy’n ymwneud â’r cyngor, eich cyfeiriad) i’n helpu i nodi’r wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani.

Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau at: Swyddog Mynediad at Wybodaeth, Tîm Rheoli Gwybodaeth Corfforaethol, Cyngor Sir Ddinbych, Rhuthun, LL15 9AZ.

Fe ddown ni’n ôl atoch chi ymhen 1 mis calendr.

Os oes angen cymorth arnoch i wneud eich cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01824 706000 a daliwch y lein ar gyfer ‘pob ymholiad arall’.

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (gwefan allanol) ydi awdurdod annibynnol y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i orfodi cyfreithiau sy’n ymwneud â chyrchiad cyhoeddus i wybodaeth. Maen nhw’n darparu cyngor i’r cyhoedd, ac i sefydliadau fel y Cyngor, sy’n dal gwybodaeth bersonol a chofnodion swyddogol.

Dogfennau cysylltiedig

Diogelu data polisi a threfnau (PDF, 1.56MB)