Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru’n dymuno penodi pobl ymroddgar i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig o 1 Tachwedd 2024 tan 31 Hydref 2028 er mwyn cefnogi a chraffu ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Gweld mwy o wybodaeth (gwefan allanol)
 
Yng Ngogledd Cymru, etholwyd Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar 2 Mai 2024 i gynrychioli preswylwyr chwe sir / bwrdeistref sirol. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd y Cynghorau canlynol:
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 
Canlyniadau: 2 Mai 2024
Cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd i bob ymgeisydd yn yr etholiad fel a ganlyn:
Canlyniadau
| Enw'r ymgeisydd | Disgrifiad (os oes un) | Nifer y pleidleisiau | 
|---|
| DUNBOBBIN, Andrew Christopher | Llafur a'r Blaid Gydweithredol | 31,950 - etholwyd | 
| GRIFFITH, Ann | Plaid Cymru - The Party of Wales | 23,466 | 
| JONES, Brian | Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru | 26,281 | 
| MARBROW, Richard David | Democratiaid Rhyddfrydol Cymru | 7,129 | 
Seddau gwag: 1
Etholaeth: 521,070
Papurau o ddosbarthwyd: 89,599
17.2% pol
Yr oedd nifer y papurau pleidlais a wrthodwyd fel a ganlyn:
- heb farc swyddogol: 1
- pleidleisio am fwy o ymgeiswyr nag yr oedd hawl gan y pleidleisiwr: 96
- ysgrifen neu farc y gellid adnabod y pleidleisiwr o’i herwydd: 9
- heb farc: 202
- ddirymu oherwydd ansicrwydd: 465
Cyfanswm y pleidleisiau a ddifethwyd: 773
Beth yw rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd?
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu ac yn magu hyder y cyhoedd. 
Mae’r Comisiynydd yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol. 
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru: Rôl a Chyfrifoldebau (gwefan allanol)