Etholiadau cynghorau dinas, tref a chymuned
Hysbysiad o Etholiad
- Ward Etholiadol Cyngor Sir Ddinbych – De-orllewin Y Rhyl
- Cyngor Tref y Rhyl - Ward Cefndy
Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023
Hysbysiad O Bleidlais - Cyngor Tref y Rhyl (Ward Cefndy) - 7 Rhagfyr 2023 (PDF, 80KB)
Bydd etholiadau’n cael eu cynnal ar gyfer 1 cynghorydd sir ac 1 cynghorydd tref fel y nodir uchod. Mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ar unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn ond ddim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023.
Mae cynghorau dinas, tref a chymuned yn gyfrifol am gynnal a chadw rhai parciau, meinciau a goleuadau stryd. Maen nhw hefyd yn trefnu torri glaswellt a lleiniau gwair o fewn ffin eu cymuned.
Mae yna 37 cyngor dinas, tref a chymuned yn Sir Ddinbych. Rhyngddyn nhw mae yna 377 o aelodau etholedig. Mae etholiadau cynghorau dinas, tref a chymuned yn cael eu cynnal pob pum mlynedd ar yr un diwrnod ag etholiadau cynghorau sir.
Dod o hyd i’ch cyngor dinas, tref neu gymuned
Edrychwch ar ganlyniadau’r etholiadau dinas, tref a chyngor cymuned
Pleidleisio
Er mwyn pleidleisio mewn etholiad cyngor lleol yng Nghymru, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio, yn 16 oed neu hŷn ar ddiwrnod y bleidlais, ac un o’r canlynol:
- yn ddinesydd Prydeinig
- yn Ddinesydd Gwyddelig neu Ddinesydd yr UE sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yno, neu nad oes angen caniatâd arnoch
- yn ddinesydd gwlad arall sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban, sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yno, neu nad oes angen caniatâd arnoch; ac
- ddim yn destun anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio
Dod o hyd i orsaf bleidleisio