Strategaeth Tai a Digartrefedd 2021 i 2026

Strategaeth Tai a Digartrefedd Sir Ddinbych yw’r ddogfen drosfwaol sy’n ymdrin ag ystod o faterion yn ymwneud â thai a digartrefedd. Mae wedi ei datblygu o amgylch y weledigaeth fod ‘Pawb yn cael eu cefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion, o fewn cymunedau bywiog a chynaliadwy Sir Ddinbych, yn unol â’n huchelgais’.

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon mae’r Strategaeth wedi ei dyfeisio o dan chwe thema ac mae cysylltiad rhyngddynt i gyd:

  1. mwy o gartrefi i ddiwallu'r angen a’r galw lleol
  2. creu cyflenwad o dai fforddiadwy
  3. sicrhau cartrefi diogel ac iach
  4. atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn Sir Ddinbych
  5. cartrefi a chymorth i bobl ddiamddiffyn
  6. hyrwyddo a chefnogi cymunedau

Mae’r Strategaeth wedi ei dyfeisio gan ystyried Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych, y newid yn yr hinsawdd a newid ecolegol, digartrefedd a heriau pobl ifanc o ran tai ac mae'n manylu ar y mesurau sydd wedi eu datblygu i fynd i'r afael â hwy.

Dogfennau cysylltiedig