Fel Cyngor Sir, rydym yn sefydliad uchelgeisiol, hyblyg ac ystwyth sy’n rhoi gweithwyr a chymunedau yn ganolog i’n penderfyniadau.O fewn ein Cyngor, rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn, ac yn anelu at wella ansawdd bywyd pawb sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Sir Ddinbych.
Ein gweithwyr yw'r ased pwysicaf i'r Cyngor ac maent yn hanfodol i'n llwyddiant wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol a phwysig ar gyfer ein cymunedau. Ein nod yw mynd i'r afael â'r ffactorau sy’n achosi rhaniad a’u lleihau, drwy ddathlu 'pawb' a sicrhau na chaiff neb eu gadael ar ôl. Rydym eisiau creu diwylliant iach drwy ein gwerthoedd a’n hegwyddorion, mewn amgylchedd lle mae gweithwyr yn cael eu cefnogi, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cymell.
Mae ein Strategaeth y Gweithlu yn rhoi amlinelliad o sut y byddwn yn creu’r amgylchedd hwn, yn cefnogi gweithwyr yn y gweithle ac yn parhau i ddenu a chadw pobl fedrus a thalentog, er mwyn sicrhau bod ein Cyngor yn addas ar gyfer y dyfodol.
Strategaeth Y Gweithlu (PDF, 5MB)