Strategaeth toiledau cyhoeddus: rhaglen gwaith cyfalaf

Corwen

Gwnaed cais i’r Gronfa Ffyniant Bro am arian i adnewyddu PODiau Corwen a dderbyniwyd gan y panel / Rheolwr Prosiectau. Roedd y cais yn cynnwys:

  • glanhau’r to
  • ailaddurno a phaentio’r tu mewn a’r tu allan
  • gosod drysau newydd wrth y mynedfeydd fel y gall pobl fynd i mewn drwy dalu ag arian parod neu gerdyn, neu ddefnyddio allwedd RADAR
  • ail-gomisiynu pumed toiled

Amcangyfrif o’r gost: i’w gadarnhau.

Sylwadau cyffredinol: aros am gadarnhad ynghylch cyflawni’r gwaith yn sgil cymeradwyo’r cais.

Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl, Pentref y Plant a Llangollen

Gosod darllenwyr cardiau fel y gall pobl dalu heb arian parod.

Amcangyfrif o’r gost: £2,100

Sylwadau cyffredinol: wedi’i gwblhau.

Old Golf Road, y Rhyl

Gwaith allanol

  • Gosod synwyryddion isgoch goddefol i weithio’r goleuadau
  • Trin ac adnewyddu’r wyntyll echdynnu ar gyfer y toiledau dynion, merched a phobl anabl

Gwaith y tu mewn

  • Gosod synwyryddion isgoch goddefol i weithio’r goleuadau
  • Adnewyddu’r teils yng nghiwbiclau toiled y dynion
  • Paentio ac addurno

Amcangyfrif o’r gost: £1,002.81

Sylwadau cyffredinol: dim

Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl

Cylchedd o 75.4 metr a radiws o 12 metr

  • Gosod estyll uPVC
  • Cael gwared â hen landeri a gosod rhai newydd
  • Clirio mwsogl a chen o’r teils concrit ar y to
  • Rhoi cladin newydd ar ffenestri’r to

Amcangyfrif o’r gost: £4,923.92

Sylwadau cyffredinol: dim

Swyddfeydd y Cyngor yn Nanthall Road, Prestatyn

Gwaith allanol

  • Gosod synwyryddion isgoch goddefol i weithio’r goleuadau
  • Trin ac adnewyddu’r wyntyll echdynnu ar gyfer y toiledau dynion, merched a phobl anabl
  • Cael gwared â’r glwyd ddur a gosod drws tân a ffrâm newydd yn ei lle ym mynedfa’r toiledau dynion a merched, yn ogystal â ffitiadau a gosodiadau

Amcangyfrif o’r gost: £719.50

Sylwadau cyffredinol: gwaith ategol i ychwanegu stribed galed ar waelod y drws.

Neuadd y Dref, y Rhyl

Gwaith y tu mewn

  • Gosod synwyryddion isgoch goddefol i weithio’r goleuadau
  • Trin ac adnewyddu’r wyntyll echdynnu ar gyfer y toiledau dynion, merched a phobl anabl
  • Trin boeler y toiledau i bobl anabl (i ddatrys problemau â’r dŵr poeth)

Amcangyfrif o’r gost: anhysbys

Sylwadau cyffredinol: dim

Princess Road, Rhuddlan

  • Cael gwared â’r glwyd ddur a gosod drws tân a ffrâm newydd yn ei lle ym mynedfa’r toiledau dynion a merched, yn ogystal â ffitiadau a gosodiadau
  • Gosod astell ag arwyneb o fetel neu ddur ar ochr allanol y drws
  • Torri a thynnu’r teils rhydd yn y toiled merched a gosod rhai newydd yr un fath â’r rhai presennol

Amcangyfrif o’r gost: £992.00

Sylwadau cyffredinol: nid yw’r pris yn cynnwys cladin ar y drws.

Ffordd y Rhaeadr, Dyserth

Cael gwared â’r glwyd ddur a gosod drws tân a ffrâm newydd yn ei lle ym mynedfa’r toiledau dynion a merched, yn ogystal â ffitiadau a gosodiadau.

Amcangyfrif o’r gost: £940.00

Sylwadau cyffredinol: gwaith ategol i ychwanegu stribed galed ar waelod y drws.

Stryd Fawr, Llanelwy

  • Gosod synwyryddion isgoch goddefol i weithio’r goleuadau
  • Trin ac adnewyddu’r wyntyll echdynnu ar gyfer y toiledau dynion, merched a phobl anabl
  • Cael gwared â’r glwyd ddur a gosod drws tân a ffrâm newydd yn ei lle ym mynedfa’r toiledau dynion a merched, yn ogystal â ffitiadau a gosodiadau
  • Gosod drws newydd ar giwbicl yn y toiledau dynion sy’n debyg i’r rhai presennol ac o’r un trwch â drws tân
  • Tynnu’r holl slabiau copa concrit a gosod slabiau newydd sy’r un fath â’r rhai presennol i lenwi bylchau (oddeutu tri o slabiau)

Amcangyfrif o’r gost: £1,397.27

Sylwadau cyffredinol: gwaith ategol i ychwanegu stribed galed ar waelod y drws.

Traeth Barkby, Prestatyn

  • Gosod synwyryddion isgoch goddefol i weithio’r goleuadau (gan gynnwys y tu mewn)
  • Trin ac adnewyddu’r wyntyll echdynnu ar gyfer y toiledau dynion, merched a phobl anabl
  • Tynnu’r teils a ddifrodwyd a gosod rhai newydd yr un fath â’r rhai presennol
  • Torri’r rendrad oddi ar ben y fynedfa i ddod â chapan y drws i’r golwg, clirio rhwd ac ysgythriadau oddi ar gapan y drws a’i baentio er mwyn atal cyrydu, rhoi rendrad newydd drosto a gleinio’r corneli.  Paentio tu blaen yr adeilad yr un fath â’r gweddill

Amcangyfrif o’r gost: £903.83

Sylwadau cyffredinol: gwaith ategol i ychwanegu drysau newydd (dynion a merched), teilsio a growtio o amgylch y droethfa ac adeiladu gris.