Strategaeth toiledau cyhoeddus 2022 i 2027

Cynnwys

Mynd yn syth i:

Cefndir

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (gwefan allanol) ym mis Mai 2017. Mae’r Ddeddf yn cyfuno amrywiaeth o gamau ymarferol ar gyfer diogelu a gwella iechyd. Mae a wnelo Rhan 8 o’r Ddeddf â darparu toiledau, a strategaethau toiledau lleol yn benodol. Nod y ddeddfwriaeth yn y pen draw yw sicrhau bod pob awdurdod lleol yn asesu’r angen am gyfleusterau cyhoeddus yn y gymuned ac yn arfer dull strategol a thryloyw wrth fodloni’r angen hwnnw.

Ni fwriedir i Ran 8 o’r Ddeddf atal awdurdodau lleol rhag gwneud penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud yn ystod eu gweithgarwch, a allai gynnwys penderfyniadau i gau adeilad neu gyfleuster toiledau traddodiadol pan fo hynny’n briodol. Yn hytrach, ei bwriad yw gwella’r cynllunio a’r ddarpariaeth fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yng nghyd-destun cyffredinol Cyngor Sir Ddinbych yn diwallu anghenion ei gymuned. Bydd dull strategol hefyd yn helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol neu newid yn y ddarpariaeth.

Yn ôl i frig y dudalen.

Rhagarweiniad

Ein hamcan yn y strategaeth hon yw sicrhau ein bod yn dal i ddiwallu anghenion pobl Sir Ddinbych. Bwriedir i’r strategaeth roi sylw i ddarparu portffolio o gyfleusterau cyhoeddus yn y dyfodol a dulliau eraill o ddiwallu’r anghenion o dan y cyfyngiadau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu.

Llunnir y strategaeth er mwyn creu’r seilwaith angenrheidiol ar gyfer darparu’r cyfleusterau sydd eu hangen ar breswylwyr ac ymwelwyr yn Sir Ddinbych.

Ble bynnag y mae pobl yn mynd y tu allan i’w cartrefi eu hunain, maent yn dibynnu ar doiledau er mwyn mwynhau eu hymweliad. Efallai bod ymwelwyr wedi dod cryn bellter o’u cartrefi a’u bod hefyd yn dibynnu ar gael toiledau hygyrch. Gall toiledau gael effaith sylweddol ar fwynhad unigolion a theuluoedd sy’n ymweld â mannau cyhoeddus a’u barn o’r ardal fel lle dymunol i ddod.

Mae darparu toiledau a sicrhau y gall pobl eu defnyddio’n un o’r hanfodion sylfaenol ymhob rhan o’r gymuned. Gall toiledau hygyrch a glân sydd mewn mannau cyfleus mewn lleoedd megis canol trefi, parciau, llwybrau beicio a llwybrau cerdded helpu i annog pobl i gymdeithasu, gwneud ymarfer corff a bod yn fwy gweithgar yn gorfforol. Mae manteision hyn yn amlwg o safbwynt iechyd a’r economi.  Gall diffyg cyfleusterau toiledau digonol effeithio hefyd ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl, ac effeithio ar iechyd amgylcheddol y boblogaeth ehangach.

Mae darparu toiledau, felly, â goblygiadau o safbwynt iechyd y cyhoedd ac unigolion, cludiant, atal troseddau, dylunio trefol, datblygu economaidd a diwylliannol, tegwch mewn cymdeithas a hygyrchedd. Mae’n elfen bwysig o ddarparu amgylchedd ‘cyfeillgar i bobl’ i bawb sy’n ymweld â chanolfannau siopa, mannau hamdden ac adloniant, cyfleusterau chwaraeon, parciau a mannau gwyrdd, pawb sy’n symud o gwmpas ar droed, ar feic, ar gludiant cyhoeddus neu mewn cerbydau preifat, boed hynny ar gyfer gwaith neu fwynhad.

Mae toiledau i’r cyhoedd eu defnyddio’n bwysig i bawb sy’n teithio “oddi cartref” am ba bynnag reswm ac mae’n dal yn bwnc â phroffil uchel.  Maent yn bwysicach fyth i rai carfannau o gymdeithas, gan gynnwys:

  • pobl hŷn
  • pobl ag anableddau
  • pobl ag anghenion penodol fel dementia, er enghraifft
  • pobl â phroblemau symudedd
  • menywod, plant a phobl ifanc a’u teuluoedd

Gall diffyg darpariaeth effeithio’n anghymesur ar y carfannau hynny; er enghraifft, deallir bod darpariaeth wael yn cael effaith arbennig o negyddol ar bobl hŷn, gan y bydd rhai ohonynt yn llai tebygol o fynd o’u cartrefi os nad ydynt yn ffyddiog y bydd cyfleusterau digonol ar gael iddynt. Gall hynny gyfrannu at ymdeimlad cynyddol o arwahanrwydd cymdeithasol ac anweithgarwch, a gall effeithio hefyd ar allu pobl i gadw’n annibynnol a chynnal eu hurddas yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae newidiadau mewn demograffeg, gweithgarwch dynol a’r drefn reoleiddio ar gyfer darparu’r cyfleusterau hyn wedi effeithio ar y galw am gyfleusterau cyhoeddus. Yn sgil hynny nid yw swyddogaeth awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus mor flaenllaw ag yn y gorffennol. Mae awdurdodau lleol bellach yn darparu cyfleusterau cyhoeddus yn bennaf yn y mannau hynny ble maent yn creu’r galw eu hunain wrth ddarparu gwasanaethau fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chefnogaeth. Yn Sir Ddinbych, fodd bynnag, rydym wedi cadw portffolio helaeth o gyfleusterau cyhoeddus, yn enwedig felly yng ngogledd y sir ble mae’r mwyafrif o’r boblogaeth yn byw a’r mwyaf o dwristiaid yn dod.

Buddsoddwyd £60,000 o gyfalaf yn ein cyfleusterau cyhoeddus ym mlwyddyn ariannol 2018 / 2019 a buddsoddwyd cyfalaf drachefn ym mlwyddyn ariannol 2019 / 2020 a hyd yn oed yn ystod y pandemig COVID-19 yn 2020 / 2021; mae gwaith wedi mynd yn ei flaen i wella’r portffolio toiledau cyhoeddus gyda chymorth o’r Gronfa Ffyniant Bro, gan gynnwys adnewyddu’r cyfleusterau cyhoeddus yng Nghorwen, a bydd hynny’n parhau.

Mae ardal Sir Ddinbych yn ymestyn o Langollen yn y de i’r Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd. Dros y ffin i’r gorllewin mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac i’r dwyrain mae Cyngor Sir y Fflint. Mae’r ardal ynghanol gogledd Cymru. Cymysgedd o gymunedau trefol a gwledig sydd yn y sir.

Mae yno chwech o brif ganolfannau yn Sir Ddinbych: Dinbych, Llangollen, Prestatyn, y Rhyl, Rhuthun a Llanelwy.

Buddsoddir mewn llawer o ardaloedd i’w hadfywio (yn enwedig y gwaith sy’n mynd rhagddo yn y Rhyl a Phrestatyn), ac mae llawer o siopau preifat bellach yn darparu toiledau cyhoeddus fel rhan o’u datblygiadau o dan y rheoliadau adeiladu (Rhan M) (gwefan allanol) (canolfannau siopa newydd, er enghraifft). Maent yn darparu cyfleusterau ar wahân o ansawdd da gan gynnwys toiledau, mannau newid i fabanod ac oedolion yn ogystal â thoiledau cwbl hygyrch sydd ar agor am oriau estynedig (i ddiwallu’r anghenion wrth i’r mannau hyn brysuro).

Mae mwy o waith i’w wneud i annog busnesau lleol a gweithio â hwy i hyrwyddo’r cyfleusterau hyn i’r cyhoedd lle bynnag y bo modd, a thrwy ddefnyddio’r arwyddion safonol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u creu at y diben hwn. Dylunnir y ddarpariaeth raenus hon i fodloni gofynion amrywiaeth helaeth o gwsmeriaid, gan gynnwys pobl ag anableddau, rhieni â phlant bach a phobl hŷn.

Nid Cyngor Sir Ddinbych yn unig sy’n wynebu gwasgfa gynyddol ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus, ac mewn ymdrech i fynd i’r afael â hyn fe gyhoeddodd y Llywodraeth ddogfen yn 2008 o’r enw:

'Improving Public Access to Better Quality Toilets – A Strategic Guide' (gwefan allanol) a oedd yn gosod fframwaith ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn lleol. Yn ogystal â hynny, mae Bil Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (gwefan allanol), yn Rhan 6 ‘Darparu Toiledau’, yn pennu nifer o ddyletswyddau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu cyflawni wrth ddarparu toiledau cyhoeddus.

Yn ôl i frig y dudalen.

Nodyn ynglŷn â thermau

Yn y strategaeth hon, defnyddiwn y termau a ganlyn ar gyfer gwahanol fathau o gyfleusterau toiledau:

Toiled(au): mae hyn yn golygu cyfleuster toiledau y gall y cyhoedd ei ddefnyddio a all fod yn eiddo cyhoeddus neu’n eiddo preifat, mewn amrywiaeth o safleoedd, a heb fod gofyn i’r defnyddiwr fod yn gwsmer neu brynu rhywbeth.

Toiled(au) cyhoeddus traddodiadol: mae hyn yn golygu cyfleuster toiledau pwrpasol y mae’r awdurdod lleol yn berchen arno neu’n ei reoli er mwyn i’r cyhoedd ei ddefnyddio. Dyfynnir rhai detholiadau o ddeddfwriaeth sy’n defnyddio’r term ‘toiled cyhoeddus’, ac yn yr achosion hynny nid ydym wedi cynnwys y gair ‘traddodiadol’.

Toiled(au) niwtral o ran rhywedd: mae hyn yn golygu toiled na ddynodwyd yn benodol ar gyfer dynion neu ferched y mae modd i bawb ei ddefnyddio. Yn y gorffennol gelwid toiledau fel hyn weithiau’n rhai ‘neillryw’.

Changing Places: toiledau cwbl hygyrch yw’r rhain gyda mainc newid y mae modd addasu ei huchder, teclyn codi, toiled penrhyn, a digon o le i unigolyn anabl, ei gadair/ei chadair olwyn a dau ofalwr.

Toiled(au) hygyrch safonol: ciwbiclau wedi’u dylunio’n arbennig mewn toiledau dynion a merched neu doiledau niwtral o ran rhywedd. Gelwir y rhain hefyd yn ‘doiledau anabl’.

Yn ôl i frig y dudalen.

Nodau’r strategaeth hon

Nodau’r strategaeth hon yw dal i adolygu ansawdd toiledau lleol a’u nifer ledled y sir, darparu toiledau glân, diogel, hygyrch a chynaliadwy i drigolion ac ymwelwyr yn Sir Ddinbych, neu hwyluso eu darpariaeth, yn y mannau hynny lle nodir yr angen am y fath gyfleusterau.

Y strategaeth hon yw’r cam ffurfiol cyntaf at gyflawni’r ymrwymiad hwnnw. Mae’n argymell yr hyn y dylid ei ystyried cyn pennu amserlen ar gyfer cynlluniau fel y gellir sicrhau bod dyheadau’r awdurdod yn golygu bod yr holl drigolion ac ymwelwyr yn Sir Ddinbych yn cael cyfleusterau cyhoeddus o ansawdd da.

Er mwyn cyflawni'r Strategaeth yma byddwn yn:

  • darparu toiledau glân a chyfleusterau wedi’u cynnal a’u cadw’n briodol, ac yn ystyried anghenion y cyhoedd
  • hyrwyddo’r ddarpariaeth drwy roi cyhoeddusrwydd i’r toiledau sydd ar gael i’r cyhoedd
  • gweithio mewn partneriaeth â chyfleusterau’r Cyngor a busnesau er mwyn darparu cynifer â phosib o doiledau i’r cyhoedd
  • sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod ble mae’r toiledau drwy osod arwyddion
  • asesu’r portffolio toiledau presennol ar sail y galw
  • dal i ymgynghori ag aelodau lleol / Grwpiau Ardal Aelodau / busnesau lleol sydd wedi mynegi diddordeb yn y Cynllun Toiledau Cymunedol
  • adnabod anghenion carfannau penodol fel pobl â dementia a’r henoed
  • dal i arolygu cyflwr y cyfleusterau presennol a’r defnydd a wneir ohonynt, a dal i wneud addasiadau rhesymol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010
  • cyhoeddi datganiad sy’n nodi’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd er mwyn diwallu’r angen hwn ac unrhyw wybodaeth arall sy’n briodol ym marn yr awdurdod

Yn ôl i frig y dudalen.

Adolygu’r strategaeth

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn llunio adroddiad cynnydd bob dwy flynedd ynghylch y camau a gymerwyd yn unol â'i strategaeth ar ôl ei chyhoeddi. Cyhoeddir yr adroddiad cyntaf mewn chwe mis ar ôl dyddiad terfyn y ddwy flynedd gyntaf. Felly, wedi cyhoeddi’r strategaeth ym mis Mai 2023, cynhelir yr adolygiad cyn diwedd Mai 2025.

Gall Cyngor Ddinbych adolygu ei strategaeth unrhyw bryd, ac wedi hynny rhaid iddo gyhoeddi datganiad o’r camau y mae wedi eu cymryd yn unol â’r strategaeth.  Os bydd y Cyngor yn penderfynu diwygio’r strategaeth yn dilyn adolygiad, bydd yn cyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig ac yna’n llunio adroddiad cynnydd interim gan gynnwys y ddwy flynedd ers dyddiad cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol.

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut mae hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau a gwasanaethau eraill y Cyngor?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn sefydliad uchelgeisiol, hyblyg ac ystwyth sy’n rhoi gweithwyr a chymunedau yn ganolog i’n penderfyniadau. Dymunwn i Sir Ddinbych fod y gorau y gall fod i’n cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein diwylliant yn canolbwyntio ar ein pedwar o werthoedd allweddol:  Balchder, Undod, Parch a Chywirdeb. Ni waeth ym mha adran neu wasanaeth mae ein pobl yn gweithio, defnyddiwn ddull ‘Un Cyngor’ ym mhopeth a wnawn, darparu amgylchedd sy’n barchus, proffesiynol ac yn ddymunol i’n gweithwyr.

Byddwn yn dal yn Gyngor sy’n nes at ei gymunedau ac yn rhoi hyder i’r gymuned, yn annog arweinyddiaeth gymunedol ac yn meithrin cryfder cymunedau drwy gyfathrebu’n gadarnhaol.

Fel Cyngor, rydym yn realistig, agored a gonest am bopeth rydym yn ei wneud, rydym yn dal yn uchelgeisiol yn ein meysydd blaenoriaeth allweddol ac yn bwysicach oll, rydym yn Gyngor sy’n atebol.

Mae’r Cyngor yn ymrwymo i gael gweledigaeth bendant o Sir Ddinbych fel lle unigryw sydd â chymunedau bywiog lle mae pawb â chyfle cyfartal i gyflawni eu potensial. Gall y strategaeth ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus gyfrannu at hynny drwy hyrwyddo nifer o’r amcanion lles yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor.

Yn fwy na hynny, fel y soniwyd eisoes, mae ar bob un ohonom angen toiledau cyhoeddus ar ryw adeg neu’i gilydd pan rydym oddi cartref, ac felly mae’r ddarpariaeth yn berthnasol i bob maes o waith y Cyngor mewn rhyw ffordd ac i ryw raddau.

Yn ôl i frig y dudalen.

Pwy sy’n darparu toiledau lleol / cyhoeddus?

Darparu toiledau mewn adeiladau ar wahân fu’r arfer am rai degawdau ac mae lle i hynny o hyd mewn rhai amgylchiadau penodol. Mae budd cynyddol, fodd bynnag, wrth gyd-leoli’r ddarpariaeth mewn adeiladau presennol lle bynnag y bo modd, er mwyn lleihau’r elfennau negyddol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth a’r costau sy’n deillio o hynny.

Ochr yn ochr â darparwyr masnachol mewn canolfannau siopau mawr sydd ar agor yn hwyr, ac mewn canolfannau adloniant ac atyniadau ymwelwyr, bydd y ddadl o blaid cael toiledau cyhoeddus hygyrch mewn amrywiaeth fwy helaeth o adeiladau cymunedol a chanolfannau gwasanaeth yn cryfhau, gan ddenu amrywiaeth fwy helaeth o ddarpar bartneriaid i’w hariannu a’u rheoli.

Nid cynghorau lleol yn unig sy’n darparu toiledau cyhoeddus bellach, ac mae’r penawdau isod yn cyfeirio at ddarparwyr a dewisiadau eraill.

Yn ôl i frig y dudalen.

Categorïau toiledau cyhoeddus

A - Eiddo’r Cyngor

1. Ar wahân: wedi’u rheoli gan y Cyngor

Dyma’r hyn y byddai llawer o bobl yn eu hystyried yn doiledau traddodiadol. Maent wedi bod fel arfer yn adeiladau pwrpasol ar wahân gyda gwahanol rannau ar gyfer Merched a Dynion, ac yn fwy diweddar yn cynnwys uned hygyrch ar gyfer pobl anabl. Mae’r Cyngor wedi bod yn gyfrifol am gynnal a chadw’r rhain, eu rheoli a’u glanhau a staff mewnol a fu’n gwneud hynny. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn aelod o’r cynllun Allweddi RADAR ac yn darparu nifer o doiledau cyhoeddus sy’n agor ag allweddi RADAR ledled y sir. Mae allweddi RADAR yn galluogi pobl ag anableddau, ar ôl un tâl o £3, i gael mynediad am ddim i’r toiledau cyhoeddus hyn.

Fe ddewch chi o hyd i fanylion y cyfleusterau a ddarparwn ar ein gwe dudalen am doiledau cyhoeddus.

2. Asedau y mae’r Cyngor yn berchen arnynt ac yn eu rheoli

Gall toiledau fod ar gael i’r cyhoedd os yw’r lleoliad, y trefniadau mynediad a’r amgylchiadau’n galluogi hynny, fel yn y portffolio swyddfeydd dinesig, adeiladau cymunedol, llyfrgelloedd, canolfannau chwaraeon ac amryw adeiladau eraill y mae’r awdurdod yn berchen arnynt ac yn eu rheoli. Mae’r rhain yn aml wedi deillio o angen mwy cyffredinol i sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir yn hygyrch i bawb yn y gymuned. Ceir rhestr isod o holl adeiladau’r cyngor sydd â thoiledau cyhoeddus:

Rhestr o doiledau cyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych (MS Excel, 24KB)

B - Darpariaeth y sector masnachol / manwerthu

Mae llawer o’r toiledau y mae busnesau masnach a manwerthu wedi’u darparu wedi bod ar gyfer y cwsmeriaid yn unig, neu’n bennaf. Ceir dealltwriaeth mewn rhai siopau mewn canol trefi fod pobl yn dod i mewn i ddefnyddio’r toiledau a chydnabyddiaeth y gallai hynny ddenu pobl i brynu nwyddau tra’u bod yno. Mae canolfannau siopa ar gyrion trefi a datblygiadau manwerthu cymysg newydd fel arfer yn darparu toiledau ar gyfer ymwelwyr a siopwyr bellach. Mae’r rhan helaeth o atyniadau i ymwelwyr a thwristiaid a mannau adloniant fel sinemâu’n darparu toiledau. Mae gorsafoedd rheilffyrdd yn aml yn darparu toiledau.

C - Cynllun Toiledau Cymunedol

Gall busnesau ymgeisio i ymuno â chynllun grantiau cymunedol y Cyngor, sy’n agored i bob sefydliad sector preifat sy’n fodlon caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau. Caiff pob cwmni sector preifat sy’n cymryd rhan un taliad o £500 y flwyddyn. Bydd gofyn i’r Cyngor archwilio’r toiledau wrth ystyried y cais a phan fydd y cyhoedd yn eu defnyddio, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion iechyd a diogelwch. Ar adeg llunio’r strategaeth hon, mae gan Gyngor Sir Ddinbych un toiled yn Llangollen dan y Cynllun Toiledau Cymunedol.

D - Cynllun Toiledau Cyhoeddus dan Reolaeth y Gymuned Leol

Drwy’r trefniant hwn gall awdurdodau lleol drosglwyddo toiledau i grwpiau cymunedol neu gynghorau tref a chymuned i reoli’r toiledau’n lleol. Mae nifer o doiledau a reolir yn lleol yn Sir Ddinbych sy’n cael eu rhedeg yn arbennig o dda gan wirfoddolwyr ymroddgar, ac yn aml fe’u darperir i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim. Un o’r rhain sydd yn Sir ar hyn o bryd, ym mhentref Llandrillo.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mapio lleoliadau

Mae hyn yn rhan bwysig o’n strategaeth fel bod pobl sydd ag angen mynd i’r toiled yn medru cael gwybod yn hawdd ble mae’r un agosaf, yr oriau agor, manylion am hygyrchedd a’r math o gyfleusterau sydd ar gael.

Toilet stickerRhoddir cyhoeddusrwydd i leoliadau toiledau gydag ap mapio wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer technoleg symudol a ffonau clyfar. Bydd safleoedd sy’n rhan o’r cynllun hefyd yn arddangos sticer mewn lle amlwg i ddangos bod toiledau ar gael i’r cyhoedd.  Bydd y sticer yn arddangos y logo a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cymdeithas Toiledau Prydain (gwefan allanol) hefyd yn argymell gosod arwyddion ar y tu allan gyda gwybodaeth fel oriau agor, manylion cyswllt i sôn am broblemau a’r union gyfleusterau sydd y tu mewn, fel ystafell newid babanod os oes un.

O dro i dro bydd y Cyngor yn adolygu storfa ddata "Lle” Llywodraeth Cymru a’i diweddaru fel bod cyhoeddwyr canllawiau a mapiau, trigolion ac ymwelwyr yn cael y wybodaeth gywir.

Mae’r Adran Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (y Tîm Cyfleusterau Cyhoeddus) eisoes wedi cyflwyno rhestr / set ddata gyflawn o’r holl doiledau yn Sir Ddinbych i Lywodraeth Cymru, yn unol â’r gofynion penodol, ac wedi cyhoeddi’r wybodaeth ar ffurf data agored ar wefan y Cyngor. Mae’r set ddata’n cynnwys lleoliad a manylion ein holl gyfleusterau cyhoeddus. Defnyddir yr un data ar gyfer system Llywodraeth Cymru a’i gyfuno â setiau data awdurdodau lleol eraill i greu set ddata genedlaethol ar gyfer Map Data Cymru. Porth daear yw Map Data Cymru sy’n gweithio fel canolbwynt ar gyfer data a gwybodaeth ynghylch amrywiaeth helaeth o bynciau, ond sy’n ymwneud yn bennaf â’r amgylchedd.  Bydd Map Data Cymru’n cynhyrchu mapiau o Gymru gyfan yn seiliedig ar y setiau data a ddarperir gan awdurdodau lleol a bydd modd eu ffurfweddu i ganolbwyntio ar y darlun cenedlaethol neu ar ardaloedd mwy lleol.  Bydd y data a gynhwysir ym Map Data Cymru ar gael i bawb fel data agored.  Dyma ddolen i borth Map Data Cymru:

MapDataCymru: Map Toiledau Cenedlaethol (gwefan allanol)

Mae’n rhaid i ddata agored fod ar gael o dan drwydded agored. Gellir gwneud hyn yn y sector cyhoeddus gellir cyflawni hyn drwy gyhoeddi data dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Gan y bydd awdurdodau lleol yn darparu’r data ar ffurf data agored, bydd ar gael i drydydd partïon ei ailddefnyddio, boed hynny’n uniongyrchol o wefan yr awdurdod lleol ei hun neu drwy'r set ddata gyfun y mae Map Data Cymru’n seiliedig arni. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau eraill sy’n darparu mapiau ar-lein, datblygwyr apiau neu gwmnïau masnachol, yn ogystal â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

Bydd y set ddata ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Gall y cyhoedd weld y data a chwilio drwyddynt fel y’u cyflwynir ar wefan Map Data Cymru, gan edrych ar Gymru gyfan neu fwrw golwg ar ardaloedd penodol.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynhyrchu ei fapiau ei hun ar sail y ffynonellau data agored hyn ac yn gosod map wedi’i ffurfweddu’n lleol ar ei wefan. Byddwn hefyd yn cynnwys dolen i wefan Map Data Cymru er mwyn helpu pobl i chwilio am ddata am ardaloedd eraill y gallent fod yn ymweld â hwy.

Yn ôl i frig y dudalen.

Darpariaeth Leol

Arfordir Sir Ddinbych (rhwng Prestatyn a’r Rhyl) a Llangollen yw’r mannau mwyaf poblogaidd ag ymwelwyr i’r sir, ac mae tua  90% o drigolion Sir Ddinbych yn byw i’r gogledd o ‘goridor yr A55’. Y toiledau cyhoeddus yn y Rhyl, Prestatyn a Llangollen yw’r rhai prysuraf yn Sir Ddinbych.

Fe ddewch chi o hyd i fanylion y cyfleusterau a ddarparwn ar ein gwe dudalen am doiledau cyhoeddus.

Mae Cymdeithas Toiledau Prydain yn argymell cael digon o doiledau mewn ardal benodol yn ôl maint y boblogaeth, y cydbwysedd rhwng dynion a merched a’r nifer o bobl sy’n cerdded heibio. Y gyfradd ddelfrydol yw un ciwbicl fesul 550 o ferched ac un ciwbicl neu droethfa fesul 1,100 o ddynion, sy’n gymhareb 2:1 o blaid merched. Dylid hefyd darparu un toiled hygyrch ac un man newid babanod am bob 10,000 o bobl.

Argymhellion Cymdeithas Toiledau Prydain (gwefan allanol)

Yn ôl i frig y dudalen.

Crynodeb

Ers integreiddio’r Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau yn y Gwasanaethau Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, y tîm glanhau sydd wedi bod yn ymdrin â’r portffolio toiledau cyhoeddus drwy waith y Rheolwr Glanhau a’r Goruchwyliwr Cyfleusterau Cyhoeddus, ac mae hyn wedi helpu i roi trefn a phwrpas i’r Tîm bach ac ymroddgar hwn. Mae Rheolwr Glanhau’r Tîm Cyfleusterau’n atebol i Brif Reolwr dynodedig.

Cafodd y Tîm Cyfleusterau Cyhoeddus sgôr Sicrwydd Uchel gan Dîm Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ddinbych fis Medi 2018. Ni ellid fod wedi gwneud hynny heb waith caled, ymroddiad, dygnwch a phroffesiynoldeb y tîm bach hwn.

Ers mis Ebrill 2016 gweithiwyd yn gyson i wella’r portffolio toiledau cyhoeddus drwy adnewyddu adeiladau a’u haddasu’n strwythurol mewn rhai achosion, gan ffurfio rhaglen barhaus o fuddsoddi cyfalaf. Ceir rhestr lawn o’r gwaith cyfalaf yma:

Strategaeth toiledau cyhoeddus: rhaglen gwaith cyfalaf

Mae’n hwyr glas inni roi’r gorau i ystyried toiledau cyhoeddus ar wahân i bopeth arall, a’u gweld fel rhan hanfodol o’r holl fannau hynny y mae’r cyhoedd yn ymgynnull ynddynt neu’n mynd heibio. Wrth ddylunio toiledau cyhoeddus yng nghyd-destun eu lleoliad, mae modd eu hadeiladu neu’u hadnewyddu mewn ffyrdd sy’n gwella’r ardaloedd dan sylw yn hytrach na chyfrannu at eu dirywiad.

Hayley Jones
Prif Reolwr, Arlwyo a Glanhau
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol

Yn ôl i frig y dudalen.