Stryd Fawr Prestatyn: prosiect gwelliannau i'r barth cyhoeddus
Rydym yn edrych ar opsiynau i gwneud gwelliannau i'r barth gyhoeddus (man gweladwy) yn Stryd Fawr Prestatyn.
Dywedwch wrthym beth hoffech chi ei weld.
Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiect yn rhan o Falchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych.
Beth ydym yn ei wneud?
Fel rhan o brosiect Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol Llywodraeth y DU, dyrannwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych i gynnal nifer o brosiectau a fydd yn helpu i wella edrychiad a theimlad rhai o ardaloedd allweddol Sir Ddinbych.
Un o’r ardaloedd hynny yw’r parth cyhoeddus (man gweladwy) ar Stryd Fawr Prestatyn.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Prestatyn yw ail dref fwyaf Sir Ddinbych. Gyda thraeth tywodlyd hir a mynediad da i brif lwybrau trafnidiaeth, mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid/ymwelwyr.
We would like to understand more about people's travelling and spending habits when visiting Prestatyn town centre. We hope to encourage and support people to consider active travel, and to choose independent retailers and outlets when shopping or visiting cafés, pubs and restaurants.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem glywed eich barn.
Mae gennym gyfle i wneud gwelliannau bach i Stryd Fawr Brestatyn yn y meysydd allweddol canlynol:
- Gwella'r palmant
- Gwella'r goleuadau stryd
- Lledu'r palmant/llwybr troed.
- Plannu coed, llwyni a blodau
- Ychwanegu dodrefn stryd fel seddi, raciau beiciau, a biniau sbwriel.
- Arwyddion cyfeiriadol a phostiau bysedd, er mwyn helpu pobl yn gwybod beth yw ble.
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Rydym yn gobeithio, drwy ddeall beth sy'n bwysig i bobl sy'n byw ym Mhrestatyn, yn gweithio ynddo neu'n ymweld â Phrestatyn yn rheolaidd, y byddwn yn gallu dylunio cynllun gwella cymedrol a fydd yn helpu i wneud y Stryd Fawr yn fwy deniadol ac yn annog pobl i dreulio mwy o amser yno.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Byddwn yn cynnal dau weithgaredd ymgysylltu ar wahân:
- Rydym yn gobeithio ymgysylltu â thrigolion ac ymwelwyr rhwng 14 Ebrill a 11 Mai 2025.
- Rydym yn gobeithio ymgysylltu â busnesau ar y Stryd Fawr yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 19 Mai 2025.
Ymgysylltu â phreswylwyr ac ymwelwyr
Os ydych chi'n byw ym Mhrestatyn neu'n ymwelydd â Phrestatyn, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg canlynol:
Gwelliannau Stryd Fawr Prestatyn: arolwg ar gyfer trigolion ac ymwelwyr (gwefan allanol)
Gellir cael copïau papur o’r arolwg a’u dychwelyd yma:
Llyfrgell a Siop Un Alwad Prestatyn,
Rhodfa'r Brenin,
Prestatyn
LL19 9AA
The closing deadline for all responses is: Dydd Sul 11 Mai 2025
Ymgysylltu â busnesau'r Stryd Fawr
Os ydych chi'n berchen neu'n reoli busnes ar Stryd Fawr Prestatyn, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ganlynol i gofrestru i gael diweddariadau gennym ni:
Gwelliannau Stryd Fawr Prestatyn: ffurflen corfrestru ar gyfer busnesau'r Stryd Fawr (gwefan allanol)
Ein bwriad yw darganfod beth mae trigolion ac ymwelwyr yn ei feddwl, a wedyn byddwn yn anelu at ymgysylltu â busnesau Stryd Fawr yn ystod y wythnos sy'n dechrau ar 19 Mai 2025, lle byddwch yn gallu gweld canlyniadau'r arolwg preswylwyr ac ymwelwyr a darparu eich adborth eich hun.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
This information will be available soon.
Adborth
This information will be available soon.