Stryd Fawr Prestatyn: Prosiect Gwelliannau i'r Barth Cyhoeddus

Rydym yn edrych ar opsiynau i gwneud gwelliannau i'r barth gyhoeddus (man gweladwy) yn Stryd Fawr Prestatyn. Dywedwch wrthym beth hoffech chi ei weld yng nghanol y Stryd Fawr.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiect yn rhan o Falchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych.

Beth ydym yn ei wneud?

Fel rhan o brosiect Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol Llywodraeth y DU, dyrannwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych i gynnal nifer o brosiectau a fydd yn helpu i wella edrychiad a theimlad rhai o ardaloedd allweddol Sir Ddinbych.

Un o’r ardaloedd hynny yw’r parth cyhoeddus (man gweladwy) ar Stryd Fawr Prestatyn.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Prestatyn yw ail dref fwyaf Sir Ddinbych. Gyda thraeth tywodlyd hir a mynediad da i brif lwybrau trafnidiaeth, mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid/ymwelwyr.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiect yn rhan o Falchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych.

Canfyddwch fwy am Brosiectau Balchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Hoffem wybod beth hoffech chi ei weld yng nghanol Stryd Fawr Prestatyn fel rhan o'r prosiect hwn.

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Rydym yn gobeithio, drwy ddeall beth sy'n bwysig i bobl sy'n byw ym Mhrestatyn, yn gweithio ynddo neu'n ymweld â Phrestatyn yn rheolaidd, y byddwn yn gallu dylunio cynllun gwella cymedrol a fydd yn helpu i wneud y Stryd Fawr yn fwy deniadol ac yn annog pobl i dreulio mwy o amser yno.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Os ydych chi'n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Phrestatyn, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg canlynol:

Arolwg ar-lein (gwefan allanol)

Gellir cael copïau papur o’r arolwg a’u dychwelyd yma:

Llyfrgell a Siop Un Alwad Prestatyn,
Rhodfa'r Brenin,
Prestatyn,
LL19 9AA.

Ffersiwn papur: Ffurflen Adborth Gwelliannau Stryd Fawr Prestatyn (PDF, 620KB)

Gallwch e-bostio: swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk

Gallwch ysgrifennu at:

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ.

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: Dydd Gwener 31 Hydref 2025.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Byddwn yn casglu’r holl ymatebion i’r arolwg ac yn rhoi adborth ddechrau 2026.

Adborth

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau.