Adolygu perfformiad y Cyngor

Rydym ni’n adolygu ein perfformiad yn barhaus er mwyn gwirio ein cynnydd, adnabod unrhyw faes y gellir ei wella, a phennu camau gweithredu i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein nodau.

Er mwyn deall sut mae'r cyngor yn cynllunio ei waith ac yn rheoli perfformiad, darllenwch ein canllaw ar wella gwasanaethau i'n cymunedau.

Gwella gwasanaethau i'n cymunedau: Canllaw i Reoli Perfformiad (PDF, 558KB)

Hunanasesiad Blynyddol

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer etholiadau, democratiaeth, llywodraethu a pherfformiad llywodraeth leol.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru barhau i adolygu, drwy hunanasesu, i ba raddau y mae’n bodloni'r 'gofynion perfformiad', hynny yw i ba raddau y maent:

  • Yn gweithredu ei swyddogaethau yn effeithiol
  • Yn defnyddio'i adnoddau yn economaidd, yn effeithiol ac yn effeithlon
  • Y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod

Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd i gyhoeddi adroddiad yn amlinellu canlyniadau ein hunanasesiad unwaith ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Crynodeb Gweithredol Hunanasesiad

Wrth ddod i gasgliadau ein hunanasesiad, rydym hefyd yn ystyried Canlyniadau ein Harolwg Budd-ddeiliaid blynyddol.

Adroddiadau perfformiad chwarterol

Bob chwarter, rydym yn adolygu'r cynnydd a wnawn yn erbyn y blaenoriaethau a amlinellir yn ein cynllun corfforaethol. Rydym yn llunio adroddiad sy'n amlinellu ein perfformiad, a beth y gallwn ei wneud i wella.

Mae’r adroddiadau hyn yn cyflwyno perfformiad y Cyngor yn erbyn ei flaenoriaethau a meysydd llywodraethu, gan gynnwys ein defnydd o egwyddor Datblygu Cynaliadwy, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.

Cynllun Corfforaethol 2017 i 2022

Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad a chyflawniadau prosiect ar draws pum mlynedd o Gynllun Corfforaethol 2017 i 2022 y cyngor.

Crynodeb Perfformiad Cynllun Corfforaethol 2017 i 2022 (PDF, 700KB)

Archwiliad Mewnol

Pob blwyddyn rydym ni’n llunio rhestr o wasanaethau i’w harchwilio. Rydym ni’n edrych ar y prosesau o fewn y gwasanaethau ac yn gwneud argymhellion ar sut gellir eu gwella.

Pwy arall sy'n adolygu ein perfformiad?

Yn ogystal â monitro ein perfformiad ein hunain, mae Archwilio Cymru hefyd yn adolygu ein perfformiad pob blwyddyn. Maen nhw’n llunio adroddiad gwelliant blynyddol sy’n nodi pa mor dda rydym ni’n darparu gwasanaethau a sut rydym ni wedi gwella ers yr adroddiad blaenorol. 

Cyngor Sir Ddinbych: Crynodeb Archwiliad Blynyddol 2021 (gwefan allanol).