Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Mae'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (PDGGC) yn darparu rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr flynyddol ar draws gofal cymunedol, gwasanaethau plant a theuluoedd a datblygu rheolwyr.

Mae'r rhaglen hon yn agored i ddarparwyr allanol, neu sefydliadau gofal cymdeithasol priodol eraill sy'n gweithio yn Sir Ddinbych, sy'n darparu gwasanaethau wedi eu comisiynu ar gyfer oedolion a phlant a theuluoedd.

Datblygu a Hyfforddi Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Ein nod yw gweithredu dull 'sector cyfan' wrth geisio bodloni gofynion hyfforddi a chyrraedd targedau cymhwyster. Ceisiwn gefnogi'r rhai sy'n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol gyda hyfforddiant, datblygiad proffesiynol parhaus a materion yn ymwneud â'r gweithlu.

Mae'r PDGGC yn gynllun cenedlaethol, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynghylch faint o gyllid mae bob awdurdod lleol yn ei dderbyn a’r amcanion hyfforddiant blynyddol yn y cylchlythyr grantiau. Os hoffech chi weld copi o’r cylchlythyr diweddaraf, cysylltwch â ni:

Cysylltu â'r Tîm Datblygu'r Gweithlu

Strategaeth Gyfathrebu PDGGC

Yn unol â’r Strategaeth Gwybodaeth i’r Cyhoedd 2015 - 2017 a Safonau’r Gymraeg, bydd y bartneriaeth bob amser yn ceisio dilyn yr egwyddorion canlynol ynghylch gwybodaeth i'r cyhoedd a gwybodaeth a gyhoeddir ar wefan Sir Ddinbych:

  • Rydym yn cynhyrchu ein gwybodaeth i'r cyhoedd yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac mewn ieithoedd a fformatau eraill yn ôl y gofyn, yn unol â safonau corfforaethol ac arfer da derbyniol.
  • Mae tudalennau’r Cyfryngau Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth fanwl am ein gwasanaethau ac yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd gyfathrebu gyda’n gwasanaethau ar-lein. Rydym hefyd yn darparu dolenni i gynlluniau hyfforddiant y PDGCC i’ch cyfeirio at adnoddau defnyddiol eraill ar-lein a gwefannau ein partneriaid.
  • Rydym yn anelu at ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau hygyrch drwy’r wefan. Rydym yn monitro cynnwys ein tudalennau we i sicrhau eu bod yn cynnwys dolenni ac atodiadau priodol, a’u bod yn gyson ac yn cydymffurfio â safonau corfforaethol.
  • Caiff ein tudalennau eu gwirio’n rheolaidd am unrhyw broblemau â dolenni ac atodiadau.

Cyfathrebu

Mae Partneriaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Sir Ddinbych yn cyfathrebu â’r sector drwy:

  • Sicrhau fod bob aelod o’r bartneriaeth wedi derbyn manylion y Cylchlythyr PDGGC
  • Mae’n bosibl y bydd dyddiadau a llefydd hyfforddiant yn cael eu hychwanegu wrth iddynt ddod ar gael a bydd e-byst yn cael eu hanfon yn rhoi gwybod i bartneriaid am unrhyw argaeledd ychwanegol. Bydd partneriaid hefyd yn cael gwybod am unrhyw lefydd a gaiff eu dyrannu neu unrhyw geisiadau aflwyddiannus
  • Bydd y Cydlynydd PDGGC yn cysylltu gydag unrhyw wasanaethau newydd a gomisiynir i gynghori ar y Bartneriaeth a’r cynlluniau hyfforddi.

Hyfforddiant

Ar gyfer dyddiadau a lleoliadau digwyddiadau hyfforddi, gwybodaeth ynglŷn â bod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant, a sut i neilltuo lle, ewch i'n tudalen hyfforddiant ar gyfer gofal cymdeithasol.