Adnewyddu addunedau

Mae seremoni adnewyddu addunedau ar gyfer parau a fyddai’n dymuno dathlu adnewyddu eu haddunedau priodas neu addewidion partneriaeth sifil mewn ffordd unigryw a phersonol. 

Beth fydd yn digwydd yn ystod y seremoni?

Gall adnewyddu eich addunedau gynnwys darlleniadau, miwsig ac ail-gysegru modrwyau. Gallwch gysylltu â chofrestrydd yn swyddfa gofrestru’r Rhyl neu Ruthun ac fe fyddan nhw’n hapus i drafod manylion y seremoni efo chi. 

Ym mhle y gellir eu cynnal?

Gellir cynnal y seremoni yn un o’n Swyddfeydd Cofrestru neu Safleoedd Cymeradwy

Sut i fwcio

Bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu seremoni adnewyddu addunedau. 

Faint mae o’n ei gostio?

Isod mae manylion cost y seremonïau hyn mewn gwahanol safleoedd - nid yw’r symiau hyn yn cynnwys hurio safle.

Mae'r ffioedd yn cynnwys TAW.

Swyddfa Gofrestru y Rhyl

  • Dydd Mercher a Dydd Iau: £185

Ystafell Glan y Môr (y Rhyl) a Ystafell Menlli (Rhuthun)

  • Dydd Llun i dydd Iau (ac eithrio Gŵyl y Banc): £350
  • Dydd Gwener (ac eithrio Gŵyl y Banc) ac dydd Sadwrn: £365
  • Dydd Sul a Gŵyl Banc: £425

Lleoliad cymeradwy arall

  • Dydd Llun i dydd Iau (ac eithrio Gŵyl y Banc): £350
  • Dydd Gwener (ac eithrio Gŵyl y Banc) ac dydd Sadwrn: £365
  • Dydd Sul a Gŵyl Banc: £425

Mwy am dalu am seremoni.