Angladdau Iechyd y Cyhoedd

Pan mae preswylydd yn marw y tu allan i'r ysbyty ac nad oes modd dod o hyd i berthnasau, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i wneud trefniadau ar gyfer yr angladd dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984.

Nid ydym yn cyhoeddi manylion angladdau iechyd y cyhoedd yn unigol, ond lle bo hynny’n berthnasol, mae gwybodaeth yn cael ei darparu i Adran Gyfreithiol y Llywodraeth (gwefan allanol) ac mae hefyd i'w gweld ar wefan Bona Vacantia (gwefan allanol). Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, yn ei Hysbysiadau Penderfynu (FS50584670 ac FS50583220), yn cefnogi peidio â datgelu manylion personol yr ymadawedig.

Manylion cyfeiriad yr ymadawedig

Dan Adran 31(1)(a) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (gorfodi’r gyfraith – atal a chanfod troseddau), ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth a fyddai'n nodi cyfeiriad yr ymadawedig. 

Byddai cyhoeddi’r cyfeiriad yn golygu bod yr eiddo’n agored i droseddau, gan gynnwys:

  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • difrod troseddol
  • tanau bwriadol
  • twyll hunaniaeth a’r troseddau sy’n cael eu cyflawni gyda dogfennau ffug

Gall gymryd misoedd i ni gwblhau ein hymholiadau wrth chwilio am berthnasau. Yn ystod y cyfnod hwn, gall cartref yr ymadawedig fod yn wag ac wedi'i ddodrefnu'n llawn gyda'u holl eiddo, eu papurau a'u trugareddau personol ynddo. Hyd yn oed ar ôl dod o hyd i berthynas, gall eiddo fod yn wag am gyfnod sylweddol wedyn. 

Gwarchod gwybodaeth y perthnasau byw

Dan Adran 40(2) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nid ydym yn datgelu enw llawn a chyfeiriad yr ymadawedig i warchod gwybodaeth bersonol perthnasau byw.  Gallai’r wybodaeth hon ddatgelu pwy yw priod, partner neu berthynas arall i’r ymadawedig sydd efallai ddim am i bobl wybod eu bod wedi gwrthod neu nad oeddent yn gallu talu am yr angladd. 

Costau

Gallwch weld costau angladdau Iechyd y Cyhoedd yn y daenlen ddata i angladdau Iechyd y Cyhoedd sydd gennym.

Setiau data Angladdau Iechyd y Cyhoedd (MS Excel, 12KB)

Mae rhai blynyddoedd yn dangos swm negatif o ganlyniad i dderbyn cyfraniadau o gostau’r flwyddyn flaenorol, gan ein bod weithiau yn derbyn cyfraniadau o ystâd yr ymadawedig i dalu'r costau.