Nantclwyd y Dre: Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil, Adnewyddu Addunedau a Dathliadau Swyddogol

Gyda dros 500 mlynedd o hanes dan ei do ac yn meddu ar un o erddi mwyaf hudolus Cymru, mae Nantclwyd y Dre yn cynnig lleoliad unigryw ac agos-atoch ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Nantclwyd y Dre venue

Gyda Bryniau Clwyd yn gefndir godidog, mae Nantclwyd y Dre yn dŷ tref rhestredig Gradd 1 wedi ei wneud â ffrâm bren. Mae yno erddi wedi eu cadw’n brydferth, ac mae’n lleoliad unigryw a hudolus ar gyfer priodasau, seremonïau partneriaethau sifil ac adnewyddu addunedau.

Mae’n berffaith ar gyfer achlysuron mwy preifat – gellir cynnal seremonïau yn y parlwr hanesyddol, sydd â thrawstiau gweladwy a lle tân gwreiddiol, neu gellir eu cynnal yn yr awyr agored yn ein gerddi hyfryd.

Os ydych yn credu mai Nantclwyd y Dre yw’r lleoliad iawn ar gyfer eich dathliad, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau cael clywed eich cynlluniau a syniadau ar gyfer eich diwrnod arbennig, a gweithio gyda chi i sicrhau eu bod yn digwydd!

Delweddau

Delweddau

Nantclwyd y dre -

Nantclwyd y dre -

Nantclwyd y dre -

Nantclwyd y dre -

Cysylltu â ni

Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 1DP

Ebost: treftadaeth@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 709822

Ffôn symudol (Rheolwr safle): 07979 704 189

Cyfryngau cymdeithasol

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.