Mae seremonïau ymrwymo ar gael i barau sydd ddim am briodi’n gyfreithlon ond sy’n dymuno gwneud ymrwymiad cyhoeddus y naill i’r llall.
Ym mhle gellir eu cynnal?
Gellir cynnal seremonïau ymrwymo yn swyddfa gofrestru’r Rhyl neu Ruthun neu mewn Safle Cymeradwy.
Sut allaf i drefnu seremoni ymrwymo?
Bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu seremoni.
Faint mae o’n ei gostio?
Cost bwcio seremoni ymrwymo ydi £50.00 a gallwch dalu mewn arian parod yn y Swyddfa Gofrestru, gyda siec wedi ei gwneud yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych neu ar y ffôn gyda cherdyn debyd/credyd. Ni ellir ad-dalu’r ffi bwcio. Isod mae manylion cost seremonïau mewn gwahanol safleoedd – nid yw’r symiau hyn yn cynnwys hurio safleoedd cymeradwy.
Mae'r ffioedd yn cynnwys TAW
Swyddfa Gofrestru y Rhyl
- Dydd Llun i Dydd Iau: £106
- Dydd Gwener: £124
Ystafell Glan y Môr (y Rhyl) a Ystafell Bro Famau (Rhuthun)
- Dydd Llun i Dydd Iau: £142
- Dydd Gwener: £160
- Dydd Sadwrn: £238
- Dydd Sul a Gŵyl Banc: £286
Lleoliad cymeradwy arall
- Dydd Llun i Dydd Iau: £178
- Dydd Gwener: £208
- Dydd Sadwrn: £220
- Dydd Sul/Gŵyl Banc: £268
Mwy am dalu am seremoni.