Grŵp bwydo babanod wythnosol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar fwydo o’r fron a bwydo a diddyfnu babanod.
Mae’r grwpiau a gynhelir yn Ninbych yn cynnig cefnogaeth ychwanegol ar gyfer bwydo o’r fron gyda staff medrus sydd wedi'u hyfforddi’n briodol ar gyfer cyfnod hwn.
Dewch i ymuno â’n staff iechyd profiadol a chyfarfod rhieni eraill a’u plant.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae’r Grŵp Bwydo Babanod i holl deuluoedd Sir Ddinbych.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Dewiswch leoliad i ddarganfod pryd a lle y cynhelir y sesiynau:
HWB Dinbych
Sesiynau yn y HWB Dinbych
Cynhelir sesiynau Grŵp Bwydo Babanod bob Dydd Mawrth yn HWB Dinbych o 12:30pm i 2:30pm.
Mae'r grwpiau hyn yn cynnig cefnogaeth ychwanegol ar gyfer bwydo o’r fron gyda staff medrus sydd wedi'u hyfforddi’n briodol ar gyfer cyfnod hwn.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad y lleoliad lle cynhelir y sesiynau yw:
HWB Dinbych
Smithfield Road
Dinbych
LL16 3RG
Canolfan y Dderwen (y Rhyl)
Sesiynau yn y Oak Tree Centre
Cynhelir sesiynau Grŵp Bwydo Babanod bob dydd Gwener yng Nghanolfan y Dderwen o 9:30am i 11am.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Sut i gymryd rhan
Nid oes raid i chi archebu lle ar gyfer y Grŵp Bwydo Babanod.
Mwy o wybodaeth
Os hoffech fwy o wybodaeth am y sesiynau Grŵp Bwydo Babanod ffoniwch 03000856594.