Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

Teuluoedd yn Gyntaf: Grŵp FRIENDS Resilience

Mae’r Grŵp FRIENDS Resilience yn gwrs i helpu i ddysgu sgiliau gwytnwch.

Mae dysgu sgiliau gwytnwch fel ychwanegu offer newydd i flwch offer. Mae sgiliau gwytnwch yn eich helpu i ddysgu i fod yn gryf, dewr a charedig. 

Grŵp o ffrindiau yn eistedd mewn llinell ar y glaswellt.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau? 

Mae cwrs Grŵp FRIENDS Resilience dim ond ar gyfer rhieni / gofalwyr sy’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf ac sydd â phlant rhwng 8 a 9 oed.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Mae hwn yn gwrs 10 wythnos, ac mae’r sesiynau’n cael eu cynnal o 9:30am tan 12 hanner dydd yng Nghanolfan Westbourne, y Rhyl, ar:

  • Dydd Iau 3 Ebrill 2025
  • Dydd Iau 10 Ebrill 2025
  • Dydd Iau 17 Ebrill 2025
  • Dydd Iau 24 Ebrill 2025
  • Dydd Iau 1 Mai 2025
  • Dydd Iau 8 Mai 2025
  • Dydd Iau 15 Mai 2025
  • Dydd Iau 22 Mai 2025
  • Dydd Iau 29 Mai 2025
  • Dydd Iau 5 Mehefin 2025

Gwybodaeth am y lleoliad

Dyma gyfeiriad Canolfan Westbourne:

Wood Road
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1DZ

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan Westbourne.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae yna gyfleusterau toiledau i bobl anabl, ac mae’r ystafell lle bydd y cwrs ar y llawr gwaelod.

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac mae’n rhaid archebu lle i fod yn bresennol yn y grŵp.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n mynd i bob un o’r sesiynau i fanteisio i’r eithaf ar y grŵp.

Sut i gadw lle

Os ydych chi’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf ac yn awyddus i archebu lle, siaradwch â’ch Gweithiwr Teuluoedd yn Gyntaf.