Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant
Mae Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant yn gwrs 11 wythnos sy'n helpu teuluoedd i gael bywyd hapus ac iachach, ac yn rhoi awgrymiadau gwych ar sut i ddeall a rheoli eich plant.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n derbyn gwasanaethau trwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf neu sy'n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Cynhelir sesiynau ar gyfer y cwrs hwn yng Nghanolfan y Dderwen rhwng 9:30am a 11:30am ar:
- Dydd Iau 16 Ebrill 2026
- Dydd Iau 23 Ebrill 2026
- Dydd Iau 30 Ebrill 2026
- Dydd Iau 7 Mai 2026
- Dydd Iau 14 Mai 2026
- Dydd Iau 21 Mai 2026
- Dydd Iau 4 Mehefin 2026
- Dydd Iau 11 Mehefin 2026
- Dydd Iau 18 Mehefin 2026
- Dydd Iau 25 Mehefin 2026
- Dydd Iau 2 Gorffennaf 2026
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Sut i gymryd rhan
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.
Sut i gymryd rhan
I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:
- Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
- Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm
Rhagor o wybodaeth
Dysgwch fwy am y Rhaglen Cysylltiadau Teuluol; Magu Plant (gwefan allanol)