Seibiant i Rieni - Plant ag Anghenion Ychwanegol

Nod y cwrs 'Seibiant i Rieni - Plant ag Anghenion Ychwanegol' yw cefnogi teuluoedd sydd â phlant ag anghenion ychwanegol, gyda diagnosis neu heb ddiagnosis, neu sy’n arddangos arwyddion o fân ymddygiad heriol.

Plentyn gyda chlustffonau ar

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau

Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu’r rhaglen Dechrau’n Deg yn unig, sydd â phlant hyd at 19 oed ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Nid oes rhaid i’r ADY gael diagnosis.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Mae’r sesiynau ‘Seibiant i Rieni - Plant ag Anghenion Ychwanegol’ yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Dderwen, o 9:30am tan 11:30 ar:

  • Dydd Mercher 15 Ebrill 2026
  • Dydd Mercher 22 Ebrill 2026
  • Dydd Mercher 29 Ebrill 2026
  • Dydd Mercher 6 Mai 2026
  • Dydd Mercher 13 Mai 2026
  • Dydd Mercher 20 Mai 2026
  • Dydd Mercher 4 Mehefin 2026
  • Dydd Mercher 11 Mehefin 2026

Mae cwrs 4 wythnos ychwanegol ar gyfer rhieni sydd â phlant ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), a gynhelir yng Nghanolfan y Dderwen, o 9:30am tan 11:30am ar:

  • Dydd Mercher 18 Mehefin 2026
  • Dydd Mercher 25 Mehefin 2026
  • Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2026
  • Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2026

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad y lleoliad lle cynhelir y sesiynau yw:

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel

Sut i gymryd rhan

Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:

  • Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm

Mwy o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn yn ei gyflwyno gyda chymorth Gofal i'r Teulu. 

Dysgwch fwy am y cwrs Gofal i’r Teulu ‘Seibiant i Rieni: Plant ag Anghenion Ychwanegol’ (gwefan allanol).

Logo Care for the Family