Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar

Mae'r cwrs 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' yn dod â rhieni a gofalwyr at ei gilydd i edrych ar feithrin perthnasoedd iach gyda'u babanod, plant bach a phlant cyn oedran ysgol a datblygu dysgu drwy hwyl a chwarae.

Rhianta a phlentyn yn edrych ar lyfr

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau

Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu'r rhaglen Dechrau'n Deg sydd â babanod, plant bach a/neu blant cyn oedran ysgol y mae’r cwrs hwn.

Pryd a lle fydd y sesiynau'n digwydd?

Bydd y cwrs 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' nesaf yn dechrau ym mis Ebrill 2026. 7 wythnos, ynghyd ag Wythnos Croeso. Mae sesiynau ar gyfer y cwrs hwn yn cael eu cynnal yn HWB Dinbych rhwng 12:30pm a 2:30pm ar:

  • Dydd Mawrth 28 Ebrill 2026 (Wythnos Groeso)
  • Dydd Mawrth 5 Mai 2026
  • Dydd Mawrth 12 Mai 2026
  • Dydd Mawrth 19 Mai 2026
  • Dydd Mawrth 2 Mehefin 2026
  • Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026
  • Dydd Mawrth 16 Mehefin 2026
  • Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad HWB Dinbych yw

Smithfield Road
Dinbych
LL16 3RG

Sut i gymryd rhan

Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:

  • Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm

Mwy o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn yn ei gyflwyno gyda chymorth Gofal i'r Teulu. 

Dysgwch fwy am y cwrs Gofal i’r Teulu 'Seibiant i Rieni - y Blynyddoedd Cynnar' (gwefan allanol)

Logo Care for the Family