Hydref 2023
3 Hydref: Her clymu a llifo / gwneud cacennau bach
Gall pobl ifanc arbrofi gyda phaent clymu a llifo, felly dewch â hen sanau gwyn neu grysau t gyda chi. Gallwch hefyd fod yn greadigol drwy ddylunio'ch cacennau bach eich hun.
10 Hydref: Addurno mwg porslen / cystadleuaeth pŵl rhwng clybiau
Bydd cyfle i bobl ifanc addurno mygiau porslen, yn ogystal â chystadlu yng nghystadleuaeth pŵl y ganolfan ieuenctid.
17 Hydref: Gwneud masgiau Calan Gaeaf / afalau taffi
Cyfle i wneud eich masg Calan Gaeaf eich hun, yn barod at y diwrnod mawr! Cewch hefyd fwynhau gorchuddio afal gyda siocled neu surop blas taffi.
Creu craith Calan Gaeaf / theatrig
Gall pobl ifanc fynd i'r parti Calan Gaeaf a hefyd roi cynnig ar greu creithiau brawychus a realistig iawn.