Datganiad hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer sirddinbych.gov.uk

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae wedi cael ei dylunio i gael ei defnyddio gan gynifer o bobl â phosib. Dylai fod y testun yn glir ac yn syml i'w ddeall. Dylech fod yn gallu:

  • chwyddo hyd at 300% heb unrhyw drafferthion
  • llywio rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio rhan fwyaf o'r wefan wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd (gwefan allanol).

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn hollol hygyrch. Er enghraifft:

  • nid yw canlyniadau chwilio gwefan yn hollol hygyrch wrth lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig neu ddefnyddio technolegau cynorthwyol.
  • nid yw'r cynnwys a'r ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn hollol hygyrch.
  • nid yw rhai o'n ffurflenni arlein yn hollol hygyrch.
  • nid yw rhan fwyaf o hen ddogfennau PDF yn hollol hygyrch i dechnoleg gynorthwyol.
  • mae hysbysiadau yn cynnwys elfennau nad ydynt yn hygyrch wrth lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig neu ddefnyddio technoleg gynorthwyol.
  • mae mapiau rhyngweithiol yn anodd llywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • nid yw mapiau rhyngweithiol yn cynnwys labelu botymau neu gyferbynnedd lliw digonol.

Gwybodaeth adborth a chyswllt

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordio sain neu braille, cysylltwch â ni:

Fel arall, ysgrifennwch atom at:

Cyngor Sir Dinbych,
PO Box 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnodau gwaith.

Os nad ydych yn gallu gweld ein tudalen 'Cysylltu â ni', ffoniwch 01824 706000 am gyfarwyddiadau.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym wastad yn edrych am ffyrdd i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen yma, neu'n credu nad ydynt wedi cyfarfod y gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’n tîm gwe:

Gallwch hefyd gyflwyno eich adborth gan ddefnyddio ein polisi adborth cwsmeriaid a elwir yn Eich Llais.

Gallwch ddefnyddio hwn i roi gwybod i ni:

  • rydych chi'n meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le neu wedi gwneud camgymeriad;
  • rydych chi'n meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda; neu
  • mae gennych sylw neu syniad am sut y gallem wneud rhywbeth yn wahanol.

Gallwch gysylltu â ni:

  • drwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk;
  • drwy e-bost at eich.llais@sirddinbych.gov.uk;
  • drwy ysgrifennu at Eich Llais, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch 62, Rhuthun, LL15 9AZ;
  • drwy ffonio 01824 706000; neu
  • yn bersonol yn unrhyw un o'n Siopau Un Stop, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, derbynfeydd ac adeiladau cyhoeddus.

Fel arfer, byddwn yn ymateb yn yr un modd ag y byddwch yn cysylltu â ni, ond os ydych am i ni ymateb mewn ffordd wahanol rhowch wybod i ni.

Byddwn bob amser yn delio â'ch adborth yn agored ac yn deg ac yn ei ddefnyddio i wella ein gwasanaethau.

Os ydych yn gwneud cwyn, byddwn yn ymchwilio i ddefnyddio proses gwyno'r Cyngor.

Bydd y broses hon hefyd yn eich cynghori ar sut i gael gafael ar gymorth i wneud cwyn a beth i'w wneud os teimlwch nad ymatebwyd yn briodol i'ch cwyn.

Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am hygyrchedd gwefannau yn hytrach na materion gwefan cyffredinol, efallai yr hoffech ymchwilio i'r weithdrefn orfodi fel y nodir yn y paragraff nesaf.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn gyfrifol am orfodi Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cydraddoldeb Ymgynghorol a Chefnogaeth (EASS) (gwefan allanol).

Cysylltwch â ni wrth ffonio neu ymweld â ni'n bersonol

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â'r Rheoliadau Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) Hygyrchedd 2018 (gwefan allanol).

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio gyda rheoliadau hygyrchedd

Ceisiadau trydydd parti

Rydym yn ymwybodol nad yw’r systemau trydydd parti canlynol yn cydymffurfio gyda'r safonau hygyrchedd a defnyddioldeb:

  • System cyfrif cwsmer (myaccount.denbighshire.gov.uk/cy-gb/)
  • Ffurflenni arlein (wedi'u cyflenwi gan System Rheoli Cynnwys Gwefan)
  • System Wybodaeth Ddaearyddol (Mapiau) (mapiau.sirddinbych.gov.uk/fysirddinbych.aspx)
  • System ceisiadau swyddi gwag (workfor.denbighshire.gov.uk/)
  • System taliadau
  • System catalog llyfrgell
  • System Y Porth Cynllunio (planning.denbighshire.gov.uk)
  • Cofnodion pwyllgor a chwilio rhaglenni a system arddangos
  • Chwilio am y wefan
  • Mapiau arlein
  • Meddalwedd 'Testun-i-Leferydd'
  • System ymgysylltu ac ymgynghoriadau (countyconversation.denbighshire.gov.uk)
  • System borthol Treth Y Cyngor (connect.denbighshire.gov.uk)

Mae rhai rhannau o'r wefan hon yn defnyddio cynnwys wedi'i fewnosod a ddarperir gan wefannau trydydd parti nad ydynt yn hygyrch, gan gynnwys y canlynol:

  • Chwilio gwefan
  • Mapiau ar-lein wedi'u mewnosod
  • Adeiladwr pecyn cyngor safonau masnach
  • Gweddarllediadau
  • reCAPTCHA (Google)

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein ceisiadau trydydd parti ac yn gweithio gyda chyflenwyr i wella hygyrchedd y systemau hyn.

Adobe PDF a dogfennau Word

Nid yw rhai o'n dogfennau PDF a Word a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi yn cyfarfod safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai nad ydynt wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrin.

Rydym yn bwriadu newid dogfennau PDF a Word ar ein gwefan gyda tudalennau HTML hygyrch lle bo'n bosib.

Wrth ystyried os y gallwn ddarparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu:

  • beth fydd cost y gwaith a’r effaith bydd cynnal y gwaith yn ei gael arnom
  • faint bydd defnyddwyr gydag anabledd yn manteisio o gynnal y gwaith

Baich anghymesur

Rydym wedi nodi nifer cyfyngedig o ddogfennau PDF ac MS Word a gyhoeddwyd ar ôl mis Medi 2018 lle byddai'r cost a/neu amser cyhoeddi'r dogfennau hyn mewn fformat hygyrch yn golygu naill ai:

  • baich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd; neu
  • baich anghymesur dros dro, yr ydym yn ceisio ei drwsio.

Mae'r dogfennau rydym wedi’u nodi ar hyn o bryd fel baich anghymesur yn cynnwys:

  • Datganiadau cyfrifin (PDF)
  • Cyfansoddiad y cyngor (PDF)
  • Cofrestr trwyddedu Tai Aml-feddiannaeth (PDF)
  • calendrau dyddiad casglu biniau (PDF)
  • rhai taenlenni (dogfennau MS Excel)
  • dogfennau Gorchymyn Diogelu Coed Darpariaethol
  • Adnoddau Dynol canllawiau system
  • Adroddiadau Cynnydd Ansawdd Aer
  • Canllaw gwybodaeth ysgolion Sir Ddinbych 2024-2025
  • Adroddiadau cyllideb: 2022-2023 a 2023-2024

Ar hyn o bryd, mae nifer o ffurflenni cais yn y fformat PDF ac MS Word yn cynrychioli baich anghymesur, fodd bynnag rydym yn anelu at newid y ffurflenni hyn gyda fersiynau hygyrch ac arlein.

Ni fydd rhywbeth sy’n faich anghymesur ar hyn o bryd o reidrwydd yn faich anghymesur am byth. Os yw'r amgylchiadau yn newid, byddwn yn ailasesu a allwn ddarparu ein gwybodaeth ar-lein mewn fformat hygyrch.

Cynnwys nad sydd o fewn cwmpas y reoliadau hygyrchedd

PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni drwsio dogfennau PDF neu unrhyw ddogfen arall a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid oes rhaid i ni drwsio rhai o’n adroddiadau craffu blynyddol.

Bydd dogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn cyfarfod safonau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi datblygu a chyflawni gwefan corfforaethol newydd gyda’r prif nod o wella hygyrchedd i'n gwybodaeth a gwasanaethau arlein.

Ym mis Hydref 2019, fe gyflwynom dempledi dogfennau gwefan hygyrch newydd i sicrhau fod dogfennau arlein yn hygyrch a’u bod yn gallu cael eu defnyddio gan gynifer o bobl â phosib, gan gynnwys y sawl gydag anableddau.

Rydym yn gweithio gyda'n holl systemau a gyflenwir gan drydydd parti i geisio datrys unrhyw un o’u materion hygyrchedd a nodwyd gyda'u systemau.

Cyflawnir ein blaenoriaeth corfforaethol o 'gysylltu cymunedau' drwy sicrhau fod 'gwybodaeth a gwasanaethau'r Cyngor yn hygyrch arlein lle bo'n bosib', fel y nodwyd yn ein Cynllun Corfforaethol.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 3 Gorffennaf 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 27 Mai 2022. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Mai 2022.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan Cyngor Sir Ddinbych.

Sut wnaethon ni brofi'r wefan hon

Rydym wedi profi ein gwefan am hygyrchedd wrth ddefnyddio cyfuniad o offer awtomataidd, profion llaw a thechnolegau cynorthwyol.

Rydym wedi defnyddio’r offer awtomataidd canlynol i brofi ein gwefan:

  • W3C validator
  • HTML 5 validator
  • Wave toolbar
  • Sortsite
  • ARC toolkit
  • Total validator
  • Axe
  • Web accessibility toolbar
  • Porwr Firefox (Gwiriwr Hygyrchedd)
  • Dadansoddwr Cyferbyniad Lliw
  • SiteImprove

Rydym wedi defnyddio'r technolegau cynorthwyol canlynol i brofi ein gwefan:

  • Voiceover (rhaglen darllen sgrin ar gyfer dyfeisiadau Apple)
  • Non Visual Desktop Access (NVDA) (rhaglen darllen sgrin)
  • Adroddwr gyda Edge browser (Testun i lais)
  • Technolegau adnabod llais gan gynnwys Siri a Windows 10 Speech Recognition
  • Offer chwyddo sgrin gan gynnwys Windows 10 Magnifier

Rydym wedi defnyddio'r asesiadau â llaw canlynol i brofi ein gwefan: