Carchar Rhuthun

Carchar Rhuthun yw’r ennillwyr o’r wobr Trysor Cudd Visit Wales 2023.

Amseroedd agor

  • Ar agor dydd Mercher i ddydd Llun. Ar gau ar ddydd Mawrth
  • 23 Mawrth tan 30 Medi 2024
  • 10:30am i 5pm
  • Mae mynediad olaf am 4:00pm

Rhestr prisiau

Os ydych yn talu’r pris llawn i fynd i Garchar Rhuthun neu Nantclwyd y Dre, cewch 20% oddi ar bris mynediad i’r safle arall wrth ddangos eich derbynneb. Mae hyn yn ddilys am y tymor cyfan.

  • Oedolyn: £9.00
  • Plant 5 i 16 oed: £7.00
  • Plentyn dan 5 oed: am ddim
  • Tocyn teulu - 2 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £25.00
  • Tocyn teulu - 1 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £16.00
  • Pris grŵp - o leiaf 15 o bobl: £7.50 y pen (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
  • Grŵp ysgol: £5.00 y plentyn (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
  • 1 gofalwr yn dod gydag ymwelydd anabl: am ddim

Cysylltu â ni

Stryd Clwyd
Rhuthun
LL15 1HP

Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 01824 708281 neu anfonwch e-bost at gaol.reception@denbighshire.gov.uk.

Cyfryngau cymdeithasol

Manylion am Garchar Rhuthun

Carchar Rhuthun ydi un o’r adeiladau mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru a’r unig garchar yn null Pentonville a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd ar agor i’r cyhoedd fel atyniad treftadaeth. Ers yr ail-agoriad ym mis Mai 2002, ar ôl gwaith adfer gwerth dwy filiwn o bunnoedd, gall pobl sbïo i mewn i bob twll a chornel a dysgu am fywyd tu mewn i system carchardai oes Fictoria. Dewch i weld sut roedd y carcharorion yn byw o ddydd i ddydd: beth gawsant i fwyta, pa waith a wnaethant a pha gosbau a ddioddefwyd ganddynt. Archwiliwch y celloedd yn cynnwys y gell gosbi, y gell 'dywyll' a'r gell gondemniad. Dysgwch am 'Houdini' Cymru, a William Hughes, y person olaf i'w grogi yno.

Quality Assured logoHidden Gem 2023 award

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.