
Oriau Agor
Amgueddfa a Gerddi Tŷ Plas Newydd
- Ar agor bob dydd
- 1 Ebrill i 31 Hydref
- 10am tan 4pm
Gellir prynu tocynnau i fynd mewn i'r Tŷ yn yr Ystafelloedd Te.
Gerddi
- Gallwch fynd mewn i'r gerddi’n rhad ac am ddim.
- Mae'r giatiau ar gau bob nos ar fachlud haul.
- Croesawir cŵn ar dennyn.
Cysylltu â ni
Plas Newydd
Hill Street
Llangollen
LL20 8AW
E-bost: plasnewydd@denbighshire.gov.uk
Rhif Ffôn: 01978 862834
Cyfryngau cymdeithasol
Manylion am Plas Newydd
Daliodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ddychymyg cymdeithas Rhaglywyddiaeth.
Roeddent yn derbyn cryn dipyn o ymwelwyr i'r bwthyn bychan gwylaidd, a dros y blynyddoedd buont yn ei drawsffurfio i ffantasi Gothig o wydr lliw a derw cerfiedig hardd.
Y tu mewn i Blas Newydd heddiw, ceir arddangosfa yn cynnwys rhai o’u heiddo nhw sy’n dod â’u stori nhw’n fyw. Gallwch grwydro drwy eu gerddi ac ar hyd eu llwybr ar lan yr afon.
A chewch gael paned, fel y gwnaeth Wordsworth, Sir Walter Scott a Dug Wellington o'ch blaen.
Rhestr prisiau
- Oedolyn: £7.00
- Plant 5 i 16 oed: £6.00
- Plentyn dan 5 oed: am ddim
- Teulu: £19.50
- Pobl Hŷn (60 oed +): £6.00
- Myfyrwyr: £6.00
- Gofalwr gydag ymwelwr anabl: am ddim
- Clwb Archeolegwyr Ifanc: am ddim
- Ysgolion Sir Ddinbych: £2.00 y pen
- Pob ysgol arall: £2.25 y pen
- Arweinlyfr: £2.00
Ymweliadau grŵp
Beth am ddod â'ch grŵp ar gyfer ymweliad bythgofiadwy i Blas Newydd a'r Gerddi ac Ystafelloedd Te?
Rydym yn cynnig sgwrs am ddim i grwpiau o 15 neu fwy, a bydd un o'n Cynorthwywyr Treftadaeth yn datgelu hanes rhyfeddol y tŷ a'i breswylwyr.
Gallwch archebu ymlaen llaw a chael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â ni ar 01978 862834 neu plasnewydd@denbighshire.gov.uk.
Ystafelloedd te
Rhwng mis Ebrill a mis Hydref mae ein Ystafelloedd Te yn darparu bwyd cartref lleol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar: 01978 862834 neu plasnewydd@denbighshire.gov.uk.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.