Wythnos Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun

Camwch i mewn i waliau hanesyddol Carchar Rhuthun y Calan Gaeaf hwn ar gyfer antur hanner tymor arswydus heb ei debyg. Mae gennym ni lwybrau iasoer dan olau tortsh a gweithgareddau crefft dychrynllyd o ddifyr ac mae ein nosweithiau agored ar ôl iddi dywyllu yn eu hôl, sy’n rhoi cyfle i’r ymwelwyr grwydro’r Carchar liw nos. 

Dyma ddigwyddiad addas i deuluoedd ac ni waeth pryd yr ydych chi’n dymuno ymweld, ni fydd yna actorion nac unrhyw beth i godi braw arnoch. Y chi sy’n arwain y ffordd ac felly cewch grwydro ar eich cyflymder eich hun. Er mwyn creu ymdeimlad arswydus, ni fydd y goleuadau yn yr islawr mor llachar â’r arfer, felly cofiwch ddod â thortsh gyda chi os oes gennych chi un (bydd yn ddefnyddiol ar gyfer y llwybr i deuluoedd hefyd). 

Mae Carchar Rhuthun ar agor fel arfer i’r rhai sy’n hoffi hanes ac yn dymuno mwynhau’r atyniad treftadaeth. Mae’n bosibl y byddwch yn dod ar draws ambell arddangosfa arswydus ar hyd y ffordd.

Coridor Carchar Rhuthun gyda fflaniau a llun o fenyw ysbryd. Mae'r testun yn darllen: Calan Gaeaf yng ngharchar Rhuthun, 25 to 31 Hydref

Pryd mae’n cael ei gynnal?

Byddwn ar agor ar gyfer wythnos Calan Gaeaf:

  • Rhwng dydd Sadwrn 24 Hydref  a dydd Mercher 28 Hydref 2026, 10:30am tan 4:30pm (mynediad olaf am 3:30pm)
  • Rhwng dydd Iau 29 Hydref a dydd Sadwrn 31 Hydref 2026, 10:30am tan 8pm (mynediad olaf am 7pm) - Nosweithiau ar ôl iddi Dywyllu

Bydd teithiau dan olau tortsh yn cael eu cynnal ar y nosweithiau Ar ôl iddi Dywyllu hwyr y nos yn unig, gan ddechrau am 6pm. 

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer ymwelwyr o bob math.  Mae ein gweithgareddau a’n llwybrau arswydus yn berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu dros hanner tymor, ac o bosibl y bydd plant hŷn, rhai yn eu harddegau ac oedolion yn ffafrio’r wefr ychwanegol o archwilio’r Carchar yn ystod ein nosweithiau Ar ôl iddi Dywyllu.

Sut i gymryd rhan

Nid oes angen i chi archebu lle ymlaen llaw ar gyfer mynediad cyffredinol — dim ond galw heibio yn ystod ein horiau agor dros hanner tymor a pharatoi ar gyfer profiad iasol.

Faint mae’n ei gostio?

Mae’r holl weithgareddau Calan Gaeaf dros hanner tymor a’r nosweithiau Ar ôl iddi Dywyllu wedi’u cynnwys yn y prisiau mynediad safonol:

  • Oedolyn: £9.00
  • Plant 5 i 16 oed: £7.00
  • Plentyn dan 5 oed: am ddim
  • Tocyn teulu - 2 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £25.00
  • Tocyn teulu - 1 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £16.00
  • Pris grŵp - o leiaf 15 o bobl: £7.50 y pen (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
  • Grŵp ysgol: £5.00 y plentyn (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
  • 1 gofalwr yn dod gydag ymwelydd anabl: am ddim

Cysylltu â ni

Stryd Clwyd
Rhuthun
LL15 1HP

Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 01824 708281 neu anfonwch e-bost at treftadaeth@sirddinbych.gov.uk.

Cyfryngau cymdeithasol