Gwasanaethau digidol a gwybodaeth mewn llyfrgelloedd
BorrowBox
Fel aelod o'r llyfrgell gallwch gyrchu miloedd o Lyfrau Llafar ac eLyfrau am ddim trwy Borrowbox. Yn syml, lawrlwythwch yr ap i'ch ffôn neu dabled, neu ewch i BorrowBox (gwefan allanol) – mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN.
Libby
Mae cannoedd o gylchgronau poblogaidd ar gael rwan i'w lawrlwytho a'u darllen ar unrhyw ddyfais 24/7. Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby, yr ap darllen gan Overdrive. Ymhlith y prif deitlau cewch Cara, Lingo Newydd, Comic Mellten, a llawer mwy.
I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol, lawrlwythwch Libby neu ewch i denbighshireuk.overdrive.com (gwefan allanol).
PressReader
Mynediad am ddim i bapurau newydd a chylchgronnau o dros 120 o wledydd ar draws y byd, 24/7. Mae’r cyhoeddiadau yn destun llawn, ar ddiwrnod eu cyhoeddi ac yn edrych yn union fel y fersiwn print. Mae modd eu gweld arlein trwy borwr gwe neu trwy ap Press Reader ar ffôn neu lechen.
- Gosodwch yr ap Press Reader iOS neu Android o’ch siop apiau, neu ewch i www.pressreader.com (gwefan allanol)
- Cliciwch Sign In, dewiswch ‘Libraries and Groups’ a chwilio am Denbighshire Libraries
- Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell i mewn
- Crewch eich cyfrif gyda’ch ebost a chyfrinair
Find My Past
Gallwch gael mynediad am ddim i Find My Past (gwefan allanol) yn eich llyfrgell leol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifiad 1921. Find My Past yw'r lle perffaith i dyfu eich coeden deulu a datgloi straeon sy'n diffinio'ch gorffennol, yn siapio'ch presennol ac yn ysbrydoli'ch dyfodol. Sylwch mai dim ond nifer cyfyngedig o sesiynau y gallwn eu cynnig ar unrhyw un adeg.
Ancestry
Gallwch ddefnyddio Ancestry (gwefan allanol) yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell leol. Mae’n caniatáu i chi ddatblygu eich coeden deulu yn sydyn ac yn hawdd ac ymchwilio hanes eich teulu.
Theory Test Pro
Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig ar-lein o brawf theori gyrru'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys cwestiynau swyddogol, deunydd fideo ar ganfod perygl a fersiwn ar-lein o Reolau'r Ffordd Fawr. Gallwch ddefnyddio Theory Test Pro yn rhad ac am ddim fel aelod o’r llyfrgell.
Cliciwch yma i ddefnyddio Theory Test Pro (gwefan allanol)
Mynediad at Ymchwil
Mae Mynediad i Ymchwil (gwefan allanol) yn rhoi mynediad am ddim i dros 15 miliwn o erthyglau academaidd yn eich llyfrgell leol. Gall myfyrwyr ac ymchwilwyr annibynnol nawr gael mynediad at lawer o bapurau academaidd gorau’r byd gan gyhoeddwyr blaenllaw sydd wedi rhyddhau cynnwys eu cyfnodolion am ddim.