Beth am dyfu eich dychymyg gyda Sialens Ddarllen yr Haf, Gardd o Straeon!
Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn 'Gardd o Straeon' sef Sialens Ddarllen yr Haf eleni, gyda gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn cychwyn o 5 Gorffennaf 2025 tan ddiwedd Medi.

Yr haf hwn, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gwahodd plant i gamu i fyd hudolus Gardd o Straeon, sef thema Sialens Ddarllen yr Haf 2025. Gyda gwaith celf hardd gan y darlunydd Dapo Adeola, bydd plant yn canfod straeon sy’n dathlu’r awyr agored a phŵer y dychymyg.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd ddifyr, am ddim, i blant rhwng 4 ac 11 oed gael eu cymell i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf.
Nid yw un o bob pedwar o blant wedi cyrraedd y lefel ddarllen ddisgwyliedig erbyn iddynt fod yn 11 oed, a bydd llawer yn ei chael yn anodd yn yr ysgol uwchradd, er mai darllen er pleser yw un o’r dangosyddion mwyaf o ran datblygiad plentyn.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o roi hwb i hyder a hunan-barch, ac mae’n helpu plant i fod yn fwy parod i ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref. Mae amrywiaeth o lyfrau i blant eu darganfod yn eu llyfrgell leol, yn Gymraeg a Saesneg, a thrwy gofrestru ar gyfer y Sialens, byddant yn cael gwobrau bob tro byddan nhw’n dychwelyd eu llyfrau.
Bydd sialens eleni’n dechrau ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf.
Dechreuwch eich antur trwy ymuno yn eich llyfrgell leol, neu:
Cofrestrwch ar-lein ar wefan Sialens Ddarllen yr Haf (gwefan allanol)