Achubwyr Bywyd ar y Traeth

Am fynd am dro i'r traeth? Peidiwch â phoeni, rydych chi mewn dwylo diogel. Mae holl draethau Sir Ddinbych yn ffodus iawn o gael gwasanaeth achub bywyd yr RNLI.

Mae achubwyr bywyd cymwys yn gweithio ar draethau'r Rhyl a Phrestatyn ac yn darparu cyngor ar ddiogelwch ac yn ymateb i ddigwyddiadau drwy gydol y tymor.

Digwyddiadau y gallwn roi cymorth i chi

  • Pobl sydd ar goll
  • Eitemau chwyth yn mynd allan i'r môr
  • Unigolion yn sownd ar grwyn cerrig
  • Unigolion sydd angen sylw meddygol
  • Materion gyda mwd
  • Unigolion yn sownd ar fanc tywod
  • Nofwyr mewn trafferthion

Os ydych yn gweld rhywun mewn trafferth, rhowch wybod i'r achubwyr bywyd.

Os nad ydych yn gallu gweld achubwr bywyd, neu ar gyfer argyfyngau eraill, dylech ffonio 999 a gofyn am Wyliwr y Glannau neu wasanaeth brys arall.

Oriau gweithio'r Achubwyr Bywyd ar y Traeth

Mae ein hachubwyr bywyd ar ddyletswydd yn ystod yr amseroedd canlynol:

Oriau gweithio'r Achubwyr Bywyd ar y Traeth
DyddiadauAmlderAmser
27 Mai i 4 Mehefin 7 diwrnod yr wythnos 10am i 6pm
10 Mehefin i 25 Mehefin Penwythnosau'n unig 10am i 6pm
1 Gorffennaf i 3 Medi 7 diwrnod yr wythnos 10am i 6pm

Dyma’r oriau craidd, ond mae modd eu hestyn gan y swyddog mewn gofal yn dibynnu ar y tywydd a’r llanw.

Mae’r achubwyr bywyd wedi eu lleoli yn ein hardaloedd ymdrochi ond weithiau byddent yn patrolio ardaloedd eraill. Yr ardaloedd ymdrochi ag achubwyr bywyd yw:

Cyngor Diogelwch

Mae ein baneri yn nodi os yw’n ddiogel mynd i nofio neu os yw’n beryglus.

Baner coch a melyn

Mae’r faner goch a melyn yn nodi ardal gydag achubwyr bywyd. Rydym yn annog unigolion i nofio rhwng y baneri mewn parthau gydag achubwyr bywyd.

Baneri du a gwyn

Mae'r baneri hyn yn nodi ardaloedd sy'n cael eu defnyddio gan gychod a jet sgis. Peidiwch â nofio yn y rhannau hyn.

Baner Goch

Mae’r faner goch yn golygu perygl. Peidiwch â mynd i’r dŵr os yw’r faner hon i'w gweld.

Hosan Wynt Oren

Mae Hosan Wynt Oren yn dangos cyfeiriad a chryfder y gwynt. Peidiwch â defnyddio eitemau chwyth os yw’r hosan yn pwyntio tuag at y môr.

Gallwch ddysgu mwy am ddiogelwch ar y traeth trwy ddarllen ein taflen ddiogelwch.

Diogelwch traeth (PDF, 276KB)