Traethau Prestatyn

Traeth Barkby

Mae Traeth Barkby yn ferw o brysurdeb ac yn llawn cychod a badau.

Yma hefyd mae cartref Clwb Hwylio Prestatyn a llithrffordd lansio cychod. Os hoffech chi ddefnyddio’r llithrodd neu lansio'ch cwch ffoniwch yr Adran Harbwr ar 01824 708400.

Ni chaniateir nofio yn yr ardal hon oherwydd y cychod sy'n defnyddio’r llithrffordd, ond mae'r traeth yn lle delfrydol i ymlacio yn yr haul neu i godi castell tywod. I'r dwyrain o’r llithrffordd a'r clwb hwylio mae ardal addas i gŵn.

Traeth Canol

Y Traeth Canol yw prif draeth Prestatyn ac mae'n fan poblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Gallwch fynd at y traeth o feysydd parcio Dwyrain Nova a Gorllewin Nova. Ar adegau prysur bydd achubwyr bywyd yn bresennol ar y traeth.

Os ydych chi'n bwriadu mynd i nofio, cofiwch edrych ar faneri'r achubwyr bywyd i wneud yn siŵr ei bod hi'n saff i chi nofio. Os nad ydych chi'n siŵr, holwch yr achubwyr bywyd - gallwch hefyd eu holi am y llefydd gorau i nofio.

Achubwyr Bywyd ar y Traeth

Mae cyfleusterau eraill y traeth yma’n cynnwys cawodau, caffis a maes chwarae.

Traeth Canol wedi ennill y wobr glan môr.

Gwobrau

Traeth Ffrith

Ym mhen gorllewinol Prestatyn, mae gan Draeth y Ffrith ddau barth.

Mae'r parth cyntaf, Gorllewin Traeth y Ffrith, yn ymestyn o'r Cwrs Golff at fynedfa Parc Hwyl Traeth y Ffrith. Mae'r ardal hon wedi ei marcio gan y fynedfa serth o'r promenâd sy'n ei gwneud yn haws o lawer i bobl gael mynediad at y traeth. Mae'r traeth yn rhan o'n hardal gyfeillgar i gŵn ac mae croeso i chi ddod yma ar unrhyw adeg i fynd â'ch ci am dro.

Mae'r ardal i'r dwyrain o lithrfa Ffrith, sy'n cychwyn o Barc Hwyl Traeth y Ffrith Hwyl heibio Gerddi'r Tŵr hyd at Faes Parcio'r Nova, yn ardal fwy poblogaidd sy'n eich arwain at brif draeth Canol Prestatyn. Mae cyfyngiad ar gŵn yn Nwyrain Traeth y Ffrith o fis Mai hyd at fis Medi.

Cŵn ar ein traethau

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.