Anableddau dysgu

Darperir gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ond Cyngor Sir Ddinbych sydd â chyfrifoldeb arweiniol.

Anabledd dysgu yw:

  • pan fyddwch yn ei chael yn anodd deall gwybodaeth newydd neu gymhleth neu ddysgu sgiliau newydd
  • pan fyddwch yn ei chael yn anodd ymdopi ar eich pen eich hun, a
  • rhywbeth a ddechreuodd cyn i chi dyfu’n oedolyn, ac sydd wedi cael effaith barhaol ar eich datblygiad.

Mae’r tîm yn gweithio yn Neuadd y Sir, Rhuthun ac mae’n cynnwys staff gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae’r tîm yn defnyddio dull gweithio sy’n canolbwyntio ar y person sy’n ffordd o gynorthwyo unigolyn i wneud dewisiadau a newidiadau yn ei fywyd.  Mae’n ffordd o helpu unigolyn i gynllunio ei ddyfod0l a threfnu unrhyw gymorth sydd ei angen arno/arni.

Yn unol â’r Ddeddf Gwasanaeth Cymdeithasol a Lles, mae’r gwasanaethau anabledd dysgu hefyd yn cynorthwyo neu hyrwyddo defnyddio sefydliadau’r trydydd sector a’r sector gwirfoddol er enghraifft MENCAP, Fforwm AD, hunan eiriolaeth - mae mwy o wybodaeth ar gael ar DEWIS (gwefan allanol).

Sut allaf gael gwybodaeth, cyngor a chymorth?

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.