Egwylion byr i blant anabl

Gall egwyl fer fod yn unrhyw beth o ychydig oriau neu wythnos neu ddwy y tro. Beth bynnag yw’r cyfnod, mae’n rhoi egwyl i chi a’ch gofalwyr o’r drefn arferol. Mae’n amser pan allwch chi a’ch teulu neu eich gofalwyr wneud gweithgareddau gwahanol, newid amgylchfyd, ac efallai gwneud ffrindiau newydd. 

Mathau o wyliau byr

Mae gwyliau byr ar gyfer plant anabl yn cynnwys cynlluniau chwarae a chlybiau gwyliau.

Sut ydw i'n gwneud cais am egwyl fer?

Gall blentyn neu berson ifanc, eu teulu, neu rywun proffesiynol fel meddyg, wneud cais am egwyl fer.

Pan rydych yn gwneud cais, byddwn yn cynnal asesiad. Sgwrs anffurfiol gyda gweithiwr cymdeithasol yw hon i benderfynu beth yw eich anghenion, ac i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i gael egwyl fer.

Os hoffech chi wneud cais am egwyl fer, cysylltwch â ni arlein.

Faint mae'n ei gostio?

Nid ydym yn codi tâl am wasanaethau i blant sy’n derbyn gofal a chefnogaeth, nac am gefnogaeth a ddarperir i blant sy’n ofalwyr.


Os ydych chi’n derbyn taliadau uniongyrchol, gallwch eu defnyddio i dalu am egwyl fer.