Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol: Cymraeg mewn Gwaith Gofal Cymdeithasol

Y Gymraeg a Diwylliant Cymru

  • Mae’r Gymraeg yn iaith fyw - yn y gwaith, yn yr ysgol, yn y cartref ac yn ein Cymunedau.
  • Defnyddir y Gymraeg gan 1 o bob 5 o boblogaeth Cymru. Mae dros 26% o boblogaeth Sir Ddinbych yn siarad Cymraeg.

Pwysigrwydd y Gymraeg mewn gofal

Mae dewis iaith yn hanfodol ar gyfer gofal o ansawdd da:

"Mae’n bwysig fod pobl sy’n gweithio yng ngwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn cydnabod y gall nifer o bobl ond gyfathrebu eu hanghenion gofal yn effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar gyfer nifer o siaradwyr Cymraeg, rhaid i’r gallu i ddefnyddio eu hiaith eu hunain gael ei weld fel cydran graidd mewn gofal, nid fel ychwanegiad dewisol."

Er mwyn darparu gwasanaeth sy’n bodloni anghenion unigol pobl a pharchu eu hamrywiaeth, rhaid i wasanaethau allu cefnogi’r Gymraeg a diwylliant Cymru a gallu cyfathrebu gyda phobl sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Mae’n bwysig cydnabod:

  • Mae pobl yn gallu mynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn yr iaith o’u dewis nhw.
  • Mae iaith yn rhan hanfodol o hunaniaeth person – mae ymateb yn sensitif i iaith, wrth ganolbwyntio ar yr unigolyn, yn egwyddor hanfodol o gynnal urddas a pharch.
  • Er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel, rhaid gwerthfawrogi bod iaith yn fater o angen.

Polisi a deddfwriaeth Cymraeg

Mae deddfwriaeth ddiweddar o ran y Gymraeg a datblygiadau mewn polisïau iaith yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau fod ganddynt drefniadau staffio digonol mewn lle er mwyn darparu gwasanaethau dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gyfer pobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Y Swydd Comisiynydd Y Gymraeg (gwefan allanol).

Mae dwy egwyddor yn tanategu gwaith y Comisiynydd, sef:

  • Ni ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.
  • Dylai pobl sy’n byw yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny

"Cyflwynodd Mwy Na Geiriau" (2013) (gwefan allanol) safonau i egluro sut disgwylir i sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013) a’i nodau yw:

  • sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu bodloni
  • darparu gwasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd ei angen
  • dangos fod iaith yn chwarae rhan bwysig mewn ansawdd gofal ac nid yw’n cael ei weld fel "ychwanegiad".

Cynnig Gweithredol

Mae'r 'Cynnig Gweithredol' yn golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Mae’n golygu y dylai gwasanaethau Cymraeg fod cystal ac yr un mor weledol ag ydynt yn Saesneg. Gallai methu â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn weithredol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.

Dewch o hyd i’r ffordd mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn edrych ar ac yn adrodd (gwefan allanol) ar os yw gwasanaeth gofal yn darparu 'Cynnig Gweithredol' Cymraeg.

Defnyddio’r Gymraeg mewn gofal

Bydd cydnabod bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil ynddo’i hun, a ddylai gael ei werthfawrogi a’i ddefnyddio mewn modd cadarnhaol yn y gweithlu, yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn sgil broffesiynol.

Darganfyddwch pam ei bod mor bwysig i ddefnyddio Cymraeg yn y gwaith (gwefan allanol) a'r hyn mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg o fewn y sector Gofal Cymdeithasol.

Datblygu Sgiliau Cymraeg

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi dod yn bartner â Chanolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar Gymraeg yn y Gwaith. Mae hon yn raglen cenedlaethol i helpu mwy o weithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu Cymraeg, fel y gallwch gyfathrebu’n fwy cyfforddus ac effeithiol gyda’r bobl rydych yn gofalu amdanynt, yn yr iaith o’u dewis nhw.

Mae gwahanol lefelau a dulliau o ddysgu ar gael ar draws Sir Ddinbych (dosbarth, ar-lein, cyfuniad) ac mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn hysbysebu ystod o gyrsiau sydd ar gael a chyfle i ymarfer eich Cymraeg ar-lein (gwefan allanol) ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Adnoddau i gefnogi holl ddysgwyr

Yma ddewch chi o hyd i adnoddau amrywiol sydd yn annog, cynorthwyo a chefnogi staff i ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle.

Lefel Ymwybyddiaeth

Deall

Hyder

Rhuglder

Adnoddau Cymraeg Ychwanegol

Ar wefan Parallel Cymru (gwefan allanol) fe gewch chi fanylion amrywiaeth o gyrsiau dysgu Cymraeg, gan gynnwys Duolingo a Say Something in Welsh. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg, gan gynnwys gwrando ar bodlediadau a Radio Cymru, gwylio rhaglenni S4C, a darllen llyfrau a chylchgronau ar gyfer dysgwyr.

Hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg

Logo Iaith Gwaith

Efallai eich bod wedi gweld pobl yn gwisgo bathodynnau swigen siarad oren. Mae hyn yn dangos fod gwasanaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe’i gwisgir ar fathodyn neu linyn gwddf, ac fe’i elwir yn Iaith Gwaith oherwydd fod pobl fel arfer yn gwisgo’r bathodyn yn y gwaith. Os hoffech archebu bathodynnau, llinynnau gwddf, posteri neu sticeri Iaith Gwaith ar gyfer staff sy’n gallu siarad Cymraeg yn eich sefydliad, cysylltwch â Chomisiynydd y Gymraeg (gwefan allanol).

Dysgu Cymraeg? Os ydych chi’n dysgu Cymraeg gallwch archebu adnoddau yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg drwy gysylltu â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gwefan allanol).

Dysgu

Menter Iaith Sir Dinbych

Rôl Menter Iaith (gwefan allanol) yw codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymreig, drwy annog pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a’u defnydd o’r iaith a gallu ymarfer eu sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol yn y gymuned.

Mae baneri i addysgu pobl am ddigwyddiadau amrywiol rydym yn ei ddathlu yng Nghymru (er enghraifft, Dydd Gŵyl Ddewi, Owain Glyndŵr, Santes Dwynwen) ar gael ar wefan Menter Iaith Sir Ddinbych.

Helo Blod

Mae Helo Blod (gwefan allanol) yn wasanaeth cyfieithu a gwirio testun am ddim.